Cherry Dee
Cherry Dee | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mehefin 1987 Bwcle |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | model |
Taldra | 157 centimetr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Model Gymreig ydy Cherry Frampton (ganwyd 11 Mehefin 1987) sydd hefyd yn fodel tudalen 3 ac oedd yn defnyddio'r enw Cherry Dee. Ei henw llawn yw Cherry Daniella Andrea Frampton.
Ymddangosodd mewn cylchgronau fel Fast Car, Fit For Men, Nuts a phapurau newydd tabloid fel y The Sun, y Daily Star, a'r The Daily Sport.
Ar 10 Awst 2003 bu'n fodel fronnoeth yn y Daily Sport, dim ond dau fis wedi iddi hi droi'n 16 oed. Ar y pryd hi oedd mascot Tim pêl-droed Bwcle a chollodd ei swydd am wneud hynny![1]
Darlledwyd rhaglen ddogfen (gyda Gwynn Williams yn cyflwyno) ar yrfa Frampton ar raglen On the Edge ar gyfer HTV Wales ar 8 Ionawr 2004.[2]
Ar 1 Mai, 2004 newidiwyd y ddeddf Sexual Offences Act 2003, oedd yn codi'r oed ar gyfer ymddangos yn noeth mewn ffotograffiaeth o 16 i 18. Dileodd Frampton y ffotograffiau ohoni ei hun o'r we a rhoi stop ar fod yn fodel - nes oedd hi'n 18 oed, yna dechreuodd stripio eto. Ychydig cyn iddi droi'n 18 oed yswiriodd ei bronnau am £1m.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Trewyn, Hywel (14 Ebrill 2005). "I've got them covered – for a million quid". icNorthWales. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2009.
- ↑ imdb, adalwyd Mai 2016