Chausey
Gwedd
Math | ynysfor |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Granville |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 0.69 km² |
Gerllaw | Môr Udd |
Cyfesurynnau | 48.89°N 1.82°W |
Ynysfor yn y Môr Udd oddi ar arfordir Normandi yw Chausey. Mae'r ynysoedd yn ffurfio rhan o Ynysoedd y Sianel yn ddaearyddol ond maent yn perthyn i Ffrainc. Mae ganddynt arwynebedd o 65 hectar yn ystod penllanw ond mae hwn yn cynyddu i 40 km2 yn ystod y llanwau isaf.[1] Grande Île yw'r brif ynys a'r unig ynys gyfannedd.[1] Mae ganddi boblogaeth o tua 30 ond mae bron 200,000 o dwristiaid yn ymweld â'r ynysoedd pob blwyddyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Association des Îles du Ponant: Chausey Archifwyd 2013-08-24 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 16 Medi 2013.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) Les Îles Chausey