Chat Moss
Gwedd
Math | cors |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Salford |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Arwynebedd | 10.6 mi² |
Cyfesurynnau | 53.5°N 2.4°W |
Ardal fawr o fawnog i'r gorllewin o Fanceinion yw Chat Moss. Mae'n rhan o Ddinas Salford, Bwrdeistref Fetropolitan Wigan a Bwrdeistref Fetropolitan Trafford ym Manceinion Fwyaf. Mae hefyd yn rhan o Fwrdeistref Fetropolitan St Helens yng Nglannau Merswy a Bwrdeistref Warrington yn Swydd Gaer. Mae ganddi arwynebedd o tua 10.6 milltir sgwâr (27.5 km2).[1]
Bu Chat Moss yn rhwystr i gwblhau Rheilffordd Lerpwl a Manceinion nes i'r peirianydd George Stephenson dod o hyd ateb, sef "arnofio" y lein ar wely o rug a changhennau wedi'u rhwymo at ei gilydd a'u gorchuddio â thar a rwbel.[2] Mae traffordd yr M62, a gwblhawyd yn 1976, hefyd yn croesi'r gors.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Chat Moss" (yn Saesneg), Salford City Council, archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Medi 2008, cyrchwyd 6 Ebrill 2007
- ↑ Nicholls, Robert (1985). Manchester's Narrow Gauge Railways: Chat Moss and Carrington Estates (yn Saesneg). Narrow Gauge Railway Society. t. 7. ISBN 978-0-9507169-2-3.