Charrúa
Enghraifft o: | pobloedd brodorol |
---|---|
Poblogaeth | 6,397, 42 |
Enw brodorol | Charrua |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd y Charrúa yn bobl frodorol Amerindian, oedd yn trigo lle mae gwladwriaeth fodern Wrwgwái heddiw[1] ac ardaloedd cyfagos yr Ariannin ac Brasil. Credir i'r Charrúa fudo i'r ardal oddi wrth bobl y Guaraní oddeutu 4,000 mlynedd yn ôl.[2] [3][4] Roeddynt yn bobl lled-nomadig oedd yn cynnal eu hunain drwy heloa a hel bwyd. Byddant yn symud gyda'r tymhorau a'r ysglyfaeth.[5] Roedd glaw, sychder a ffactorau amgylcheddol eraill yn gyfrifol am eu mudo cyson ac fe'i gelwir yn "nomadas estacionales"; nomadiaid tymhorol.[5]
Hanes
[golygu | golygu cod]Ychydig iawn a wyddir am y Charrua cyn dyfodiad y concwerwyr Sbaeneg. Nododd croniclwyr megis yr Iesuwr, Pedro Lozano, mae'r Charrúan laddodd y teithwir Sbaenaidd, Juan Díaz de Solís yn ystod ei fordaith yn 1515 fyny aber y Río de la Plata. Dangosodd hyn fod y Charrúam yn barod i wrthwynebu'r concwerwyr Sbaenaidd.[6] Yn dilyn mudo coloneiddwyr o Ewrop fe wrthwynebodd y Charrúa a'r Chana y mewnfudwyr yn chwyrn.
Daeth tranc y Charrúa o ddifri yn ystod teyrnasiad arlywydd cyntaf y wlad, Fructuoso Rivera. Er bod gan Rivera berthynas dda gyda'r Charrúa i chwyn fe waethogodd pethau wrth i awch y bobl gwyn am dir arwain at wrthdarro[7]. Fe drefnodd felly gyrch hil-laddiad yn 1831 a alwyd yn La Campaña de Salsipuedes. Roedd tair gwahanol cyrch mewn tair lle gwahanol i'r ymgyrch; "El Paso del Sauce del Queguay", "El Salsipuedes", a llwybr a alwyd yn "La cueva del Tigre".[5] Yn ôl y sôn, fe dwyllwyd y brodorion gan Fructuoso Rivera oedd yn adnabod arweinwyr y llwythi. Galwodd nhw draw i'w faracis wrth yr afon a adnebir heddiw fel Salsipuedes. Gan esgus ei fod angen cymorth y Charrua i amddiffyn ei diriogaeth, awgrymodd y ddylient ddod at ei gilydd mewn cynghrair. Ond pan oedd y Charrúas wedi meddwi ac wedi ymlacio, fe ymosododd y Sbaenwyr arnynt. Yn dilyn hyn helwyr y Charrias oedd wedi dianc neu nad oedd yn bresenol.
Dywedir ers 11 Ebrill 1831, pan lansiwyr ymgyrhc y 'Salsipuedes' ("dihangwch os gallwch") gan grwp a lansiwyd gan Bernabé Rivera, nai Fructuoso Rivera, fod y Charrúa yn swyddogol wedi ei difa fel pobl.
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Mae pobl Wrwgwái yn galw ei hunain yn "charrúa" wrth drafod ei hunain mewn cystadleuaeth gyda phobl dramor. Byddant yn cyfeirio at ddewrder wrth wynebu gwrthwynebwyr mwy. Defnyddir y term "garra charrúa" (Charrúan ternacity) i gyfeirio at fuddugoliaeth yn wyneb disgwyl colli.
Ceir mynwent Charrúa yn Piriápolis yn Departement Maldonado Department.[8]
Gelwir Tîm pêl-droed cenedlaethol Wrwgwái yn "Los Charrúas" a hefyd tîm rygbi lleol yn Porto Alegre yn 'Charrua Rugby Clube'.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Renzo Pi Hugarte. "Aboriginal blood in Uruguay" (yn Sbaeneg). Raíces Uruguay. Cyrchwyd 2 Chwefror 2015.
- ↑ Burford 2011, t. 12.
- ↑ Burford 2011, t. 16.
- ↑ Alayón, Wilfredo (28 March 2011). "Uruguay and the memory of the Charrúa tribe". The Prisma. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-14. Cyrchwyd 20 Dec 2011.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Acosta y Lara, Eduardo, F. El Pais Charrua. Fundacion BankBoston, 2002.
- ↑ Historia de la conquista del Paraguay, Rio de la Plata y Tucuman, Volumen 1, pág. 27. Autor: Pedro Lozano, 1755. Editor: Andrés Lamas. Casa Editora "Imprenta Popular", 1874
- ↑ Alayón, Wilfredo (28 March 2011). "Uruguay and the memory of the Charrúa tribe". The Prisma. Retrieved 20 Dec 2011.
- ↑ Burford 2011, t. 173.