Neidio i'r cynnwys

Charlotte M. Taylor

Oddi ar Wicipedia
Charlotte M. Taylor
Ganwyd1955 Edit this on Wikidata
Michigan Edit this on Wikidata
Man preswylUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbotanegydd, curadur, casglwr botanegol, ecolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Missouri Botanical Garden Edit this on Wikidata
PriodRoy Emile Gereau Edit this on Wikidata

Mae Charlotte M. Taylor (ganwyd 1955) yn fotanegydd nodedig ac yn athro Prifysgol a aned yn Unol Daleithiau America, a'i nain yn hannu o Ogledd Cymru.[1] Un o'r sefydliadau a'i chyflogodd fel botanegydd oedd Muséum national d'histoire naturelle. Tacsonomeg yw ei harbenigedd, ynghyd â chadwraeth, yn enwedig y teulu Rubiaceae - mae coffi a Cwinin yn aelodau o'r teulu hwn o blanhigion.[2]

Dynodwr rhyngwladol yr awdur ar Gofrestr Rhyngwladol Enwau Planhigion (International Plant Names Index) yw 27568-1. Fel sy'n arferol mewn botaneg, ceir byrfodd yn hytrach nag enw llawn, pan ddyfnynir neu pan sonir am y person hwn, sef C.M.Taylor.

Mae Taylor wedi gweithio mewn nifer o wledydd, yn casglu enghreifftiau o'r planhigion e.e. Chile, Colombia, Costa Rica, Panama, ac UDA[2], ac wedi enwi nifer o rywogaethau newydd o'r gwleydd hyn. Erbyn 2015, roedd Taylor wedi enwi ac awduro 278 o enwau rhywogaethau gwahanol.[3]

Addysg

[golygu | golygu cod]

Cwbwlhaodd Taylor raddau B.Sc. o Brifysgol Michigan (1978), M.Sc. o Brifysgol Duke (1982), a Ph.D. hefyd oddi yno (1987).

Ymhlith ei chasgliadau a gyhoeddwyd ganddi mae:

  • Flora Mesoamericana (12 genera a ca. 850 rhywogaeth)
  • Flora of the Venezuelan Guayana (86 genera a 524 rhywogaeth)
  • Flora of China (97 genera a ca. 700 rhywogaeth)
  • Catalogue Rubiaceae treatments
  • Ecuador (ca. 110 genera a 530 rhywogaeth)
  • Peru (ca. 110 genera a 600 rhywogaeth)
  • Bolivia (ca. 100 genera, 430 rhywogaeth)

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gellir canfod gwybodaeth am y botanegydd yma ar y Cyfeiriadur Rhyngwladol ar Enwau Planhigion. Adalwyd 1 Rhagfyr 2016.
  2. 2.0 2.1 "Harvard University Herbaria & Libraries". kiki.huh.harvard.edu (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 November 2017.
  3. Lindon, Heather L.; Gardiner, Lauren M.; Brady, Abigail; Vorontsova, Maria S. (5 Mai 2015). "Fewer than three percent of land plant species named by women: Author gender over 260 years". Taxon 64 (2): 209–215. doi:10.12705/642.4. http://www.ingentaconnect.com/contentone/iapt/tax/2015/00000064/00000002/art00003. Adalwyd 2018-11-20.