Charlotte Augusta o Hannover
Gwedd
- Mae "Tywysoges Charlotte" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Ni ddylid cymysgu'r dywysoges hon â merch y Tywysog William a'r Dywysoges Catherine a aned yn 2015.
| Charlotte Augusta o Hannover | |
|---|---|
| Ganwyd | Princess Charlotte Augusta of Wales 7 Ionawr 1796 Carlton House |
| Bu farw | 6 Tachwedd 1817 o anhwylder ôl-esgorol Claremont |
| Man preswyl | Carlton House, Claremont |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
| Galwedigaeth | pendefig |
| Plaid Wleidyddol | Chwigiaid |
| Tad | George IV |
| Mam | Caroline o Braunschweig |
| Priod | Leopold I |
| Plant | mab marw-anedig Von Sachsen-Coburg Und Gotha |
| Llinach | Tŷ Hannover |
| Gwobr/au | Bonesig Uwch Cordon Urdd y Santes Catrin |
| llofnod | |
Tywysoges Brydeinig oedd Charlotte Augusta (7 Ionawr 1796 – 6 Tachwedd 1817). Hi oedd unig blentyn cyfreithlon Siôr, Tywysog Cymru (y Rhaglyw Dywysog; y brenin Siôr IV yn hwyrach), o linach yr Hanoferiaid; o ganlyn cyfeirir ati naill ai fel Charlotte Augusta o Hannover neu Charlotte Augusta o Gymru. Caroline o Braunschweig oedd ei mam, ac fe'i ganed yn Carlton House, Llundain.
Priododd y Tywysog Leopold Georg Christian Friedrich o Sachsen-Coburg-Saalfeld, a ddaeth yn hwyrach yn frenin cyntaf Gwlad Belg, ar 2 Mai 1816. Bu farw Charlotte yn 21 oed ar ôl esgor ar fab marw-anedig.