Charlie Thomas

Oddi ar Wicipedia
Charles James Thomas
Dyddiad geni ( 1864-02-08)8 Chwefror 1864
Man geni Casnewydd, Sir Fynwy,
Dyddiad marw 8 Mawrth 1948(1948-03-08) (84 oed)
Gwaith Gwneuthurwr boeleri
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Maswr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
1885-1892 Casnewydd
Y Barbariaid
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1888-1891 CymruCymru (rhif) (rhif)

Roedd Charles James Thomas (8 Chwefror, 1864 - 8 Mawrth 1948) yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol a chwaraeodd rygbi clwb i Gasnewydd a rygbi gwahodd i'r Barbariaid. Enillodd Thomas naw cap i Gymru.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Thomas yng Nghasnewydd, Sir Fynwy yn blentyn i James Thomas, gwneuthurwr boeleri, ac Ann (née Gapper) ei wraig.

Mewn cyfnod lle fu chware rygbi yn gamp amatur, bu Thomas yn ennill ei gyflog trwy ddilyn yn ôl traed ei dad i weithio fel gwneuthurwr boeleri. Ym 1888 bu bron iddo gael ei ladd wrth ei waith pan syrthiodd darn trwm o foeler arno ei daro'n anymwybodol ac achosi anaf difrifol i'w gefn. Trwy ryw ryfeddod, gwellodd o'i anaf ac ail afaelodd yn ei yrfa fel gwneuthurwr boeleri a chwaraewr rygbi [1] Erbyn 1939 roedd wedi dod yn dafarnwr ym Mrynbuga.[2]

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Ymunodd Thomas â thîm dosbarth cyntaf Casnewydd ym 1885 a thra yn y clwb fe'i defnyddiwyd mewn sawl safle trwy gydol ei yrfa. Chwaraeodd Thomas fel maswr, mewnwr, canolwr, olwr ac asgellwr ac roedd ganddo gyfradd sgôr uchel iawn, gyda 99 cais mewn 215 ymddangosiad i Gasnewydd. Yn ystod tymor anorchfygol Casnewydd 1891/92, bu’n bartner i gapten chwedlonol Cymru, Arthur Gould, yn y canol.

Gyrfa ryngwladol[golygu | golygu cod]

Ym 1888, dewiswyd Thomas i gynrychioli Cymru am y tro cyntaf mewn gêm yn erbyn Iwerddon fel rhan o Bencampwriaeth y Pedwar Gwlad 1888.[3] Er i Gymru golli'r gêm cafodd Thomas ei ail-ddewis ar gyfer gem nesaf Cymru yn erbyn y Māoris ar daith yn Abertawe.[4] Enillodd Cymru’r ornest o un gôl a dau gais i ddim, ond roedd Thomas ar y tîm a gollodd pan wynebodd ochr ei glwb, Casnewydd, y Māoris bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cymru

Chwaraeodd Thomas saith gêm arall dros ei wlad, gan gynnwys pob gêm yn nhwrnamaint 1889 a thwrnamaint 1890. Ym 1890 sgoriodd Thomas ei unig bwyntiau rhyngwladol, pan sgoriodd gais mewn gêm gyfartal yn erbyn Iwerddon yn Lansdowne Road.

Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae Cymru

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1891 priododd a Jemima Emma Soffe, bu iddynt 10 o blant.[5]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, 52 Maryport Street, Brynbuga yn 84 mlwydd oed.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • John Billot, All Blacks in Wales (Ferndale, Morgannwg: Cyhoeddiadau Ron Jones, 1972)
  • David Smith and Gareth Williams, Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)
  • Terry Godwin, The International Rugby Championship 1883-1983 (Llundain: Willow Books, 1984)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "SERIOUS ACCIDENT TO A NEWPORT FOOTBALL PLAYER - South Wales Echo". Jones & Son. 1888-04-16. Cyrchwyd 2020-08-29.
  2. Yr Archif Genedlaethol; Llundain; Cofrestr 1939; Cyfeirnod: RG 101 / 7450F
  3. "WALES v IRELAND - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1888-03-05. Cyrchwyd 2020-08-29.
  4. "Wales v New Zealand Maori: Full record". 2009-12-16. Cyrchwyd 2020-08-30.
  5. Yr Archif Genedlaethol, Llundain Cyfrifiad 1911 ar gyfer 42 Adeline Street Casnewydd Cyf: RG14/587/16