Charlie Puth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Charlie Puth
Charlie Puth 2017 (cropped).jpg
Ffugenw Charlie Puth Edit this on Wikidata
Ganwyd Charles Otto Puth Jr. Edit this on Wikidata
2 Rhagfyr 1991, 1 Rhagfyr 1991 Edit this on Wikidata
Rumson Edit this on Wikidata
Label recordio Atlantic Records, eleveneleven Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Berklee College of Music
  • Rumson-Fair Haven Regional High School Edit this on Wikidata
Galwedigaeth music producer, cyfansoddwr caneuon, cyfansoddwr, canwr-gyfansoddwr, trefnydd cerdd, cynhyrchydd YouTube Edit this on Wikidata
Arddull cerddoriaeth boblogaidd, roc poblogaidd, cyfoes R&B Edit this on Wikidata
Math o lais tenor Edit this on Wikidata
Taldra 1.8 metr Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.charlieputh.com/ Edit this on Wikidata
Llofnod
White-charlie-puth-signature.png

Canwr Americanaidd yw Charles Otto Puth Jr (neu Charlie Puth) (ganwyd 2 Rhagfyr 1991). Mae hefyd yn gyfansoddwr a chynhyrchydd cerddoriaeth. Daeth i amlygrwydd drwy lwyddiant firaol fideos o'i ganeuon a uwchlwythwyd i YouTube.

Rhyddhawyd "See You Again" fel cân cyntaf Puth yn 2015, cân a gyd-ysgrifennodd, cydgynhyrchodd ac a berfformiodd gyda Wiz Khalifa ar gyfer trac sain Furious 7 fel teyrnged i Paul Walker. Aerth i rif un ar Billboard Hot 100 yr Unol Daleithiau am 12 wythnos. Ar ôl llwyddiant "See You Again", enillodd gydnabyddiaeth fyd-eang am lawer o weithiau pellach, gan gynnwys ei sengl gyntaf "Marvin Gaye", a oedd yn cynnwys Meghan Trainor, ac roedd ganddo ganeuon ar y siartiau yn Seland Newydd, Iwerddon a'r Deyrnas Unedig.[1][2]

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Charles Otto Puth Jr. ei eni ar 2ail o Ragfyr 1991, yn Rumson, New Jersey, i Debra, athro cerdd a oedd hefyd yn ysgrifennu hysbysebion ar gyfer HBO, a Charles Puth, adeiladwr. Mae ei dad yn babydd a'i fam yn Iddew. Mae ganddo un brawd ac un chwaer, sef efeilliaid Stephen a Mikaela.[3]

Mynychodd ysgol Holy Cross, Rumson, ac yna ysgol Forrestdale Middle School, cyn graddio o Rumson-Fair Haven Regional High School yn 2010. Mynychodd hefyd Manhattan School of Music Pre-College. Graddiodd Puth yn 2013 o Goleg Cerddoriaeth Berklee.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "iTunes (U.S.) – Music – Charlie Puth – Nine Track Mind". iTunes (U.S.). 29 Ionawr 2016. Cyrchwyd January 9, 2016.
  2. "Music: Top 100 Songs".
  3. "Charlie Puth". Capital FM. Cyrchwyd 29 Hydref 2017.