Charles Symmons

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Charles Symmons
Reverend Dr Charles Symmons, by William Beechey (1753-1839).jpg
Ganwyd1749 Edit this on Wikidata
Aberteifi Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ebrill 1826 Edit this on Wikidata
Caerfaddon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, offeiriad eglwysig Edit this on Wikidata
TadJohn Symmons Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Foley Edit this on Wikidata
PlantJohn Symmons Edit this on Wikidata

Roedd Y Parchedig Dr Charles Symmons DD (174925 Ebrill, 1826), yn llenor ac offeiriad Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Symmons yn Aberteifi, yn fab iau John Symmons (1701–1764) a'i wraig, Maria née Phillips merch Charles Phillips o Lanisan-yn-Rhos, Sir Benfro. Gwasanaethodd ei dad fel AS etholaeth Aberteifi rhwng 1746 a 1761.[2]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster, Prifysgol Glasgow a Phrifysgol Caergrawnt. Cofrestrodd yn Lincolns's Inn ym 1765, ond ni chafodd ei alw i'r bar.[3]

Gyrfa glerigol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ordeiniwyd Symmons yn ddiacon gan esgob Tŷ Ddewi yn Abergwili ar 15 Awst 1773, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad ar 14 Awst 1774. Fe'i penodwyd yn rheithor Arberth a Chapel Robeston, Sir Benfro ar 13 Awst 1778. Fe'i penodwyd i stondin Prebendari Clydau yn Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi 11 Hydref 1789.[4]

Aeth Symmons i Brifysgol Caergrawnt ym 1793 i astudio ar gyfer Doethuriaeth mewn Diwinyddiaeth (DD). Roedd arholiad derfynol y cwrs yn cynnwys pregethu dwy bregeth, un yn Saesneg, a'r llall yn Lladin, gerbron aelodau'r brifysgol yn Eglwys Fawr y Santes Fair. Gyda theimladau teyrngarol yn cynyddu nid oedd cefnogaeth Symmons i gredoau Chwig cymedrol yn ei bregeth Saesneg yn boblogaidd iawn. (Roedd y Chwigiaid yn credu mewn goddefgarwch i Brotestaniaid, Anghydffurfwyr a Sentars, tra bod eu gwrthwynebwyr, y Torïaid yn cefnogi goruchafiaeth absoliwt yr eglwys sefydledig ym mhob mater crefyddol). Benthycodd un o'i wrthwynebwyr gwleidyddol, Thomas Kipling, dirprwy athro regius diwinyddiaeth a darlithydd Boyle y brifysgol, nodiadau'r bregeth o dan dwyll. Danfonodd Kipling ddarnau o'r bregeth, wedi eu tynnu allan o'u cyd-destun, at Samuel Horsley, esgob Tŷ Ddewi ac eraill. Atebodd Symmons trwy gyhoeddi llythyr gwaradwyddus i Kipling (argraffwyd a dosbarthwyd hanner cant o gopïau). Roedd yn teimlo bod parhau a'i doethuriaeth yng Nghaergrawnt wedi ei wneud yn amhosibl. Symudodd i Goleg yr Iesu, Rhydychen ar 29 Mawrth 1794 ac enillodd ei DD ddeuddydd yn ddiweddarach.[5] Roedd yn ymddangos bod ei bregeth wedi andwyo gobeithion Symmons o ffafriaeth bellach. Bu gwrthwynebiad i ymgais Windham i sicrhau rheithoriaeth Llanddewi Efelffre ar ei gyfer. Ond llwyddodd i gael y rheithoriaeth gyda chryn anhawster ym 1794. Cadwodd Symmons bywoliaethau enillfawr Arberth a Llanddewi Efelffre hyd ei farwolaeth.

Gyrfa Lenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Symmons yn ysgolhaig da ac yn ddyn o sgiliau llenyddol diamheuol. Roedd yn neilltuo'r rhan fwyaf o'i oriau hamdden yn ei dŷ yn Chiswick i'r gorchwylion hyn. Mae gweithiau cynharaf Symmons yn cynnwys cyfrol o bregethau dyddiedig 1787; Inez , trasiedi anhysbys ym 1796 a Constantia, cerdd ddramatig ym 1800. Wedi hynny, fe wnaeth colledion teuluol arafu ei allbwn. Cafodd Symmons ei llethu gan alar ar ôl i'w ferch Caroline farw o’r diciâu ar 1 Mehefin 1803, yn bedair ar ddeg oed, ac yna ei fab Charles, un ar hugain oed, ym mis Mai 1805. Cyhoeddodd Poems for the Anniversary of the Literary Fund, a oedd yn cynnwys cerddi gan Caroline, mewn teyrnged iddi ym 1813.

Roedd gwaith llenyddol mwyaf nodedig Symmons yn cynnwys Life of Milton fel rhagair i argraffiad saith cyfrol o waith Milton a gyhoeddwyd gyntaf ym 1806. Cyfieithiad mewn odl a medr o Aeneid gan Fyrsil ym 1817; a Life of Shakespeare, with some remarks upon his dramatic writings a defnyddiwyd gan Samuel Weller Singer fel rhagair i'w argraffiad o gasgliad o waith Shakespeare ym 1826

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1779 priododd Elizabeth, merch John Folet o Ridgeway, Sir Benfro, a chwaer i Syr Thomas Foley a daeth yn Ôl-lyngesydd yn niweddarach. Bu iddynt dau fab a thair merch. Bu un o'i feibion, John Symmons, (1780-1842) yn llenor ac yn fargyfreithiwr amlwg ar gylchdaith Cymru.[3]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yng Nghaerfaddon wedi gwaeledd hir yn 77 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn Abaty'r ddinas.[6][7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "SYMMONS (TEULU), Llanstinan, Sir Benfro | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-02.
  2. Williams, William Retlaw (1895). "Members for Cardigan". The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895, comprising lists of the representatives, chronologically arranged under counties, with biographical and genealogical notices of the members, together with particulars of the various contested elections, double returns and petitions. Brecknock : Priv. Print. for the author by E. Davis and Bell. t. 40.
  3. 3.0 3.1 "Symmons, Charles (1749–1826), poet and biographer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-26884. Cyrchwyd 2019-09-02.
  4. "Charles Symmons". Y Brython 2 (XI): 35. 1 Ionawr 1859. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2686334/2688867/34#?cv=34&m=73&h=&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F2686334%2Fmanifest.json&xywh=442%2C1733%2C1980%2C1764.
  5. "SYMMONS (or SIMONDS), The Rev. CHARLES". A Cambridge Alumni Database. University of Cambridge. Cyrchwyd 3 Medi 2019.
  6. "Charles Symmons". Find a grave. Cyrchwyd 2 Medi 2019.
  7. "Charles Symmons". Bath Record Office. Cyrchwyd 2019-09-03.