Charles Causley

Oddi ar Wicipedia
Charles Causley
Ganwyd24 Awst 1917 Edit this on Wikidata
Lannstefan Edit this on Wikidata
Bu farw4 Tachwedd 2003 Edit this on Wikidata
Lannstefan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Launceston College Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSecret destinations Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Roedd Charles Stanley Causley (24 Awst 1917 - 4 Tachwedd 2003) yn ysgolfeistr, awdur, a bardd Cernewig a ysgrifennai yn y Saesneg. Nodir ei waith am ei symlrwydd a'i uniongyrchedd ac am ei berthynas â llên gwerin, yn enwedig felly ei weithiau sy’n ymwneud â'i Gernyw frodorol.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Causley yn Lannstefan (Launceston), yn fab i Charles Causley, gwastrawd a garddwr a Laura J (née Bartlett) ei wraig. Ganwyd Causley tra fo ei dad yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf fel gyrrwr yng Nghorfflu Gwasanaeth y Fyddin ar y ffrynt gorllewinol. Bu ei dad marw o effeithiau nwy Almeinig pan oedd Causley yn saith mlwydd oed, ac fe'i magwyd gan ei fam.[1]

Cafodd ei addysgu yn ysgol genedlaethol Lannstefan a Choleg Lannstefan (ysgol ramadeg).

Ni fu’n briod

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dymuniad Causley oedd parhau a’i addysg yn yr ysgol ramadeg gyda’r gobaith o fynd ymlaen i brifysgol, ond yn 16 oed cyhoeddodd ei fam ei bod wedi cael swydd dda iddo mewn swyddfa adeiladwr[2]. Bu’n rhaid iddo ymadael a’r ysgol i weithio mewn swydd roedd yn ei gasáu [3].

Ar doriad yr Ail Ryfel Byd ymunodd a’r Llynges Frenhinol fel codydd[4] . Gwasanaethodd ar y llong HMS Eclipse ar Gefnfor yr Iwerydd ac ar y llong awyrennau HMS Glory ar y Cefnfor Tawel.

Ar ddiwedd y rhyfel aeth Causley yn fyfyriwr i goleg hyfforddi athrawon Peterborough. Wedi cymhwyso fel athro dychwelodd i wasanaethu fel athro yn ei hen ysgol gynradd, ysgol genedlaethol Lannstefan (a ail-enwyd yn ysgol St Catherine’s wedyn).

Gyrfa fel bardd ac awdur[golygu | golygu cod]

Er ei fod wedi ymddiddori yn y byd llenyddol ers yn blentyn, ac wedi cyhoeddi ambell i ddrama wrth weithio fel clerc, ei gyfnod yn y llynges rhoddodd bri ar ei awen[1]. Ychydig cyn y rhyfel prynodd copi o lyfr o gerddi Rhyfel Byd Cyntaf Siegfried Sassoon War Poems. Teimlai bod y llyfr yn gymorth iddo ail gysylltu â’i dad a fu farw o ganlyniad i’r rhyfel. Arweiniodd llyfr Sassoon iddo ddarllen gwaith Robert Graves, Edmund Blunden, a Wilfred Owen, a bu eu disgrifiadau byw o’r wrthdaro yn gwneud argraff ddwys arno. Wrth iddo brofi erchyllterau rhyfel trwy ei wasanaeth yn yr Ail Ryfel Byd dechreuodd ysgrifennu storïau byrion a cherddi o’r un anian.

Cyhoeddwyd y storïau yn ei lyfr Hands to Dance (1951) a’r cerddi yn ei gasgliad cyntaf Farewell, Aggie Weston (1951).

Wrth weithio fel athro dechreuodd ysgrifennu cerddi a storïau i blant, er, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, nad oedd yn gwybod wrth gychwyn gwaith os oedd i fod ar gyfer plentyn neu oedolyn. Wrth drafod ei gerddi dywedodd y bardd W H Auden amdano Causley stayed true to what he called his 'guiding principle' ... while there are some good poems which are only for adults, because they pre-suppose adult experience in their readers, there are no poems which are only for children.

Yn ogystal ag ysgrifennu i blant mae nifer o’i gerddi i oedolion yn edrych yn ôl ar ei blentyndod yng Nghernyw megis Eden Rock [5] a Who [6].

Roedd Causley yn hoff o deithio’r byd ac yn ysgrifennu cerddi am ei brofiadau yn Awstralia, Canada, yr Aifft, Rwsia a nifer o lefydd eraill, ond roedd Cernyw yng nghanol ei holl waith. Yn 2017 darlledwyd teyrnged iddo ar BBC 4 o’r enw Cornwalls Native Poet. Yn y rhaglen mae Gillian Clarke (Bardd Cenedlaethol Cymru 2008-2016) yn nodi’r adlais o'r gynghanedd mewn rhai o’i gerddi, ar arfer Celtaidd o gysylltu â llên gwerin. Mae Clerk yn honni bod ei waith yn rhan o’r un teulu a’r traddodiad barddol Cymreig.[7]. (Cyfeiriad dros dro BBC I-Player Cornwall's Native Poet: Charles Causley)

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Ym 1952 fe urddwyd Causley fel bardd yn Gorseth Kernow gyda'r enw barddol Morvardh. [8] Ym 1958, gwnaethpwyd Causley yn Gymrawd y Gymdeithas Llenyddiaeth Frenhinol a dyfarnwyd CBE iddo ym 1986. Pan oedd yn 83 mlwydd oed fe'i gwnaethpwyd yn Gymar Llenyddiaeth gan y Gymdeithas Llenyddiaeth Frenhinol. Ymysg gwobrau eraill y dyfarnwyd iddo bu Medal Aur y Frenhines ar gyfer Barddoniaeth ym 1967 a Gwobr Cholmondeley ym 1971. Ym 1973/74 bu'n Ymwelydd Gymrodor mewn Barddoniaeth ym Mhrifysgol Caerwysg, gan dderbyn doethuriaeth anrhydeddus o'r brifysgol honno ar 7 Gorffennaf 1977. Fe'cyflwynwydyd â Gwobr Lenyddol Heywood Hill yn 2000. Rhwng 1962 a 1966 bu'n aelod o Banel Barddoniaeth Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr. Dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth deithiol ddwywaith gan Gymdeithas yr Awduron.

Derbyniodd wahoddiadau i fod yn awdur-breswyl ym Mhrifysgol Gorllewin Awstralia, Sefydliad Technoleg Footscray, Victoria, ac Ysgol y Celfyddydau Cain, Banff, Alberta.

Ym 1982, ar achlysyr ei ben-blwydd yn 65 mlwydd oed, cyhoeddwyd llyfr o gerddi yn ei anrhydeddu a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan Ted Hughes, Seamus Heaney, Philip Larkin a thri ar hugain o feirdd eraill, dilynwyd hon gan deyrnged lawnach a mwy eang, Causley at 70, a gyhoeddwyd ym 1987.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Kernow House, cartref nyrsio yn Lannstefan, a chladdwyd ei weddillion yn Eglwys St Thomas, Lannstefan, tua chanllath o’i fan geni.

Llyfrau[golygu | golygu cod]

[9]

I oedolion[golygu | golygu cod]

  • Hands to Dance (short stories, later re-published as Hands to Dance and Skylark) (1951)
  • Farewell, Aggie Weston (1951)
  • Survivor's Leave (1953)
  • Union Street (1957)
  • Johnny Alleluia (1961)
  • Underneath the Water (1968)
  • Secret Destinations (1984)
  • Twenty-One Poems (1986)
  • A Field of Vision (1988)
  • Collected Poems, 1951-2000 (2000)

I blant[golygu | golygu cod]

  • Figure of 8 (narrative poems 1969)
  • Figgie Hobbin: Poems for Children (i blant, 1970)
  • 'Quack!' Said the Billy-Goat (c. 1970)
  • The Tail of the Trinosaur (i blant, 1973)
  • As I Went Down Zig Zag (1974)
  • Dick Whittington (1976)
  • The Animals' Carol (1978)
  • Early in the Morning: A Collection of New Poems with music by Anthony Castro and illustrations by Michael Foreman
  • Jack the Treacle Eater (Macmillan, 1987), illustrated by Charles Keeping — winner of the Kurt Maschler Award, or the Emil, for integrated writing and illustration[10]
  • The Young Man of Cury and Other Poems (1991)
  • All Day Saturday, and Other Poems (1994)
  • Collected Poems for Children (1996) as illustrated by John Lawrence
  • The Merrymaid of Zennor (1999)
  • I Had a Little Cat (2009)
  • Timothy Winters

Dramau[golygu | golygu cod]

  • Runaway (1936)
  • The Conquering Hero (1937)
  • Benedict (1938)
  • How Pleasant to Know Mrs. Lear: A Victorian Comedy in One Act (1948)
  • The Ballad of Aucassin and Nicolette (libretto, 1981)

Golygydd[golygu | golygu cod]

  • Peninsula
  • Dawn and Dusk
  • Rising Early
  • Modern Folk Ballads
  • The Puffin Book of Magic Verse
  • The Puffin Book of Salt-Sea Verse
  • The Sun, Dancing: Anthology of Christian Verse

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 John Mole, Causley, Charles Stanley (1917-2003), Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Jan 2007, adalwyd 2 Hydref 2017
  2. BBC GCSE Bitesize Charles Causley: What Has Happened To Lulu? Archifwyd 2014-05-29 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 2 Hydref 2017
  3. Guardian Obituaries 6 Tachwedd 2003 Charles Causley adalwyd 2 Hydref 2017
  4. Telegraph Obituaries Charles Causley adalwyd 2 Hydref 2017
  5. Poem Analysis ‘’Eden Rock’’ adalwyd 2 Hydref 2017
  6. The Poetry Practice Who is that child I see wandering …? adalwyd 2 Hydref 2017
  7. BBC4 Cornwall’s Native Poet: Charles Causley darlledwyd gyntaf 1 Hydref 2017 adalwyd 2 Hydref 2017
  8. "Bardic Roll by Surname 2019" (PDF). Gorsedh kernow. Cyrchwyd 8 Sep 2023.
  9. CAUSLEY, Charles Stanley, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 1 Hydref 2017
  10. "Kurt Maschler Awards". Book Awards. bizland.com. Adalwyd 2 Hydref 2017.