Ceunant Ironbridge

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cyfesurynnau: 52°37′38″N 2°29′08″W / 52.627245°N 2.485533°W / 52.627245; -2.485533

Ceunant Ironbridge

Ceunant dwfn yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ceunant Ironbridge. Mae Afon Hafren yn llifo drwyddo.

Mae'r ceunant yn cymryd ei enw o'r Iron Bridge, y bont haearn enwog sy'n ei groesi – y bont fetel fawr gyntaf yn y byd.

Ffurfiwyd y ceunant trwy erydiad rhewlif ar ddiwedd yr Oes yr Iâ diwethaf. Mae'r toriad dwfn trwy'r creigiau wedi datguddio dyddodion glo, mwyn haearn, calchfaen a clai tân. Arweiniodd argaeledd y deunyddiau crai hyn at ddatblygiad yr ardal yn ystod y Chwyldro Diwydiannol cynnar. Hefyd, roedd yr afon ddwfn ac eang yn caniatáu llongau i gludo cynhyrchion (haearn, teils a phorslen) i'r môr yn hawdd.

Gan fod yr ardal o bwysigrwydd hanesyddol i ddatblygiad y byd diwydiannol modern, mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986.[1] Mae'r Safle'n yn cwmpasu ardal o 550 hectar, yn cynnwys trefi a phentrefi Coalbrookdale, Ironbridge, Jackfield, Madeley, a Coalport.

Rheolir 35 o safleoedd hanesyddol yn y ceunant gan yr Ironbridge Gorge Museum Trust ("Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ceunant Ironbridge"), sefydliad treftadaeth ddiwydiannol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ironbridge Gorge". UNESCO. http://whc.unesco.org/en/list/371. Adalwyd 3 Chwefror 2017.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]