Cetus (cytser)
Gwedd
| Enghraifft o: | cytser |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01wmv |
Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisfferau wybrennol y gogledd a'r de, yn croesi'r cyhydedd wybrennol, yw Cetus. Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Ym mytholeg Roeg Cetus oedd enw'r anghenfil môr a laddwyd gan Perseus i achub Andromeda. Mae'r tri ohonynt wedi'u trawsnewid yn gytserau – Perseus, Andromeda a Cetus ei hun.
Gwrthrychau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Cetus", Awyr Dywyll Cymru