Ceris y Pwll
Enghraifft o'r canlynol | fersiwn, rhifyn neu gyfieithiad |
---|---|
Cyhoeddwr | Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1908 |
Lleoliad cyhoeddi | Caernarfon |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Mae Ceris y Pwll yn rhamant hanesyddol sydd wedi ei osod ym Môn ac Arfon yn Oes y Saint, cyfnod yr ymdrech rhwng Goidel (pobl o dras Wyddelig) a Brython i ffurfio'r genedl Gymreig. Ysgrifennwyd yr hanes gan Owen Williamson. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol fel stori gyfres yn y Cylchgrawn Cymru ym 1908[1] ac fe'i ail gyhoeddwyd fel llyfr ym 1908[2] fel y seithfed yng nghyfres llyfrau poced Ab Owen.
Yr awdur
[golygu | golygu cod]Roedd Owen Williamson (21 Tachwedd 1840—22 Rhagfyr 1910) yn athro yn Ysgol Frutanaidd Llangeinwen, Môn. Roedd yn fab i'r bardd Robert (Mona) Williamson, (Bardd Du Môn) a Jane (née Roberts) ei wraig. Cyhoeddodd nifer o erthyglau i'r cylchgronau Cymraeg a dau lyfr:[3]
- Hanes Niwbwrch (1895)
- Ceris y Pwll (1908)
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Ceris y Pwll—gwyliwr yr arfordir Goidelig, gyda'i brif wylfa ym Mhenmon. Yn ôl yr hanes yma rhoddodd Ceris ei enw i Bwll Ceris, y trobwll peryglus rhwng y ddwy bont Menai ac (o'i llysenw Ceris y Foel) i Lwyn y Foel, y tir lle mae Plas Newydd yn sefyll bellach.
- Bera—y "Wrach Ddu" sydd yn parhau i ddilyn yr hen grefydd dderwyddol
- Dona—Merch Ceris
- Iestyn—Cariad Dona
- Caswallon ap Bran—tywysog y Brythoniaid
- Yr Esgob Moelmud—Esgob yr Eglwys Wyddelig
Braslun
[golygu | golygu cod]Y mae Bran ap Bile, brenin y Brythoniaid wedi mynd i'r Iwerddon ar ymweliad a'r Llys Gwyddelig ac wedi gadael gofal dros Fôn i ddau o'i feibion Caswallon a Caradog. Yn absenoldeb Bran mae Caswallon yn penderfynu dyrchafu ei hun yn frenin Môn gan ladd Caradog, ei frawd. Mae Gwyddelod Môn yn poeni bod goruchafiaeth Caswallon dros holl Frythoniaid Môn yn gam cyntaf mewn ymgais i fod yn Frenin holl bobl yr ynys, Brythoniaid a Gwyddelod.
Mae y rhan fwyaf o bobl Cymru wedi derbyn y ffydd Gristionogol erbyn cyfnod y stori, ond mae llywodraeth a dull addoli'r Eglwys Wyddelig a'r Eglwys Frythoneg yn wahanol. Mae Ceris a'r Esgob Moelmud yn poeni, pe bai Caswallon yn dod yn bennaeth yr holl ynys, byddai'n gorfodi'r drefn eglwysig Frythonig ar holl Gristnogion yr ynys. Mae Bera'r Wrach Ddu hefyd yn poeni bod Caswallon am gael gwared â holl olion yr hen grefydd o'r tir. Mae Bera yn dweud wrth Dona ei bod hi wedi cael rhith proffwydol yn dangos y ddwy garfan Gristnogol yn brwydro mor ffyrnig bod nhw'n difa eu hunain a bydd y Derwyddon yn dychwelyd i ail uno'r bobl o dan yr hen grefydd.
I osgoi rhyfel mae Caswallon yn rhoi sicrwydd i'r Gwyddelod na fydd yn ymyrryd yn eu harferion Cristionogol os ydynt yn ymostwng iddo ef fel eu gwledig ac wedi peth trafod mae'r Gwyddelod yn cytuno.
I sicrhau'r heddwch mae Caswallon yn trefnu amser i holl arweinwyr y Gwyddelod mynd i Ffynnon Clorach yn Llannerchymedd i dalu gwrogaeth iddo ac i dyngu llw o ffyddlondeb. Ond pan ddaw'r amser dydy Ceris, un o arweinwyr amlycaf y Gwyddelod, ddim ar gyfyl y lle. Fel cosb am beidio â dangos teyrngarwch mae Ceris yn cael ei ddynodi'n "Foel", un heb hawl na braint, ac mae ei holl eiddo'n cael ei atafaelu. Mae'r Esgob yn sicr bod yna reswm ysgeler tu ôl i'r rheswm pam na ymddangosodd Ceris ac mae'n benderfynol o ganfod y rheswm ac i adfer enw da ei gyfaill.
Yn y cyfamser mae Bera'r wrach wedi bod ymysg Gwyddelod Eryri a Mawddwy yn rhannu sïon am y modd creulon mae Caswallon yn trin a Gwyddelod Môn ac yn defnyddio'r sarhad ar Ceris fel enghraifft o ddialedd y pendefig ar Wyddelod parchus. Mae Gwyddelod Eryri yn ymosod ar Ynys Môn er mwyn achub cam eu hil. Mae Gwyddelod Eryri yn colli'r frwydr. Wrth siarad â bugail clwyfedig o Ddolwyddelan ar ôl y frwydr mae'r Esgob yn cael gwybod mae Bera oedd yn gyfrifol am godi cynnwrf ymysg Gwyddelod y tir mawr yn erbyn Brythoniaid Môn. Mae'r Esgob yn sicr bod gan Bera rhan i chwarae yn niflaniad Ceris a Dona. Mae'r esgob yn sicrhau rhyddid i'r Bugail rhag dig Caswallon ar yr amod ei fod yn chwilio am hynt a helynt Bera.
Mae'r Bugail yn ymweld â Gŵr Hysbys yng Nghil Machno, un oedd a dewiniaeth gryfach nag eiddo Bera i weld os oedd o'n gallu rhoi gwybodaeth iddo am y Wrach Ddu. Mae o'n canfod bod Bera wedi defnyddio hud a lledrith i gipio Ceris a Dona i gwm anghysbell lle'r oedd hi'n eu cadw nhw'n gaeth. Mae'r gŵr yn defnyddio swyn sy'n torri swyn Bera, mae'r tad a'i merch yn canfod eu hunain yn rhydd o swyn y wrach ar y ffordd ger Conwy.
Mae Ceris yn ymddangos o flaen llys yn Aberffraw i egluro pam na thyngodd ei lw o deyrngarwch i Caswallon. Wedi clywed ei hanes mae o'n cael maddeuant ac adferiad ei holl diroedd a breintiau. Fel arwydd o'r undod newydd rhwng y ddwy hil priododd Dona y Wyddeles ac Iestyn y Brython ar noswyl y Nadolig.
Yn ystod gwasanaeth plygain dydd Nadolig bu storm o fellt a tharanau a rhwygodd y ffurfafen. Yng nghanol y storm clywyd sgrech ddieflig. Ar ddiwedd y dymestl canfuwyd corff Bera wedi ei rwymo a gwymon yn Afon Menai.
Penodau
[golygu | golygu cod]- i.—Cyfnod Niwlog
- ii.—Brad Caswallon
- iii.—Y Wrach Ddu
- iv.—Yr Esgob Moelmud
- v.—Dona
- vi.—Penbleth yr Esgob
- vn.—Melldithion Bera
- viii.—Cyngor yr Esgob
- ix.—Addewid Iestyn
- x.—Meudwy Ynys Lenach
- xi.—Son am Ryfel
- xii.—Ffydd ac Ofn
- xiii.—Ymostwng i Caswallon
- xiv.—Y Ciliau
- xv.—Cynhadledd Ffynnon Clorach
- xvi.—Hynt yr Esgob
- xvn.—Dwy Genedl
- xviii.—Y Gwr Hysbys
- xix.—Ing meddwl Ceris
- xx.—Y Moel
- xxi.—Diwedd a Dechreu
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cymru | Cyf. 34 | 1908 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-04-06.
- ↑ "Ceris y Pwll - Wicidestun". cy.wikisource.org. Cyrchwyd 2022-04-06.
- ↑ "WILLIAMSON, ROBERT (MONA) ('Bardd Du Môn '; 1807-1852) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2022-04-06.