Cerdyn chwarae

Oddi ar Wicipedia
Dyrnaid o gardiau (o'r chwith i'r dde): âs y rhawiau, dau'r diemyntau, tri'r rhawiau, pedwar y calonnau, a phump y clybiau.

Cerdyn a wneir o bapur trwchus neu gardbord tenau, neu ddefnydd tebyg, gyda lluniau, symbolau, neu ddyluniadau arno yw cerdyn chwarae a ddefnyddir i chwarae gemau, darogan, neu gonsurio.

Ar un wyneb o'r cerdyn ceir y symbolau neu luniau sydd yn dynodi ei siwt a'i reng, a phob cerdyn mewn pecyn yn unigryw; ar y wyneb arall, ceir dyluniad sydd yn unffurf i bob cerdyn yn y pecyn. Yn ôl y drefn gyffredin yn y Gorllewin, rhennir pecyn o gardiau chwarae—52 i gyd—yn bedair siwt (rhawiau, clybiau, calonnau, a diemyntau) gyda 13 o gardiau yr un o 13 o wahanol rengoedd, sef deg cerdyn rhif (yr âs, a'r rhifau o ddau i ddeg) a thri cerdyn llys (y brenin, y frenhines, a'r jac). Siwtiau duon yw'r rhawiau a'r clybiau, a choch yw lliw'r calonnau a'r diemyntau. Yn aml, cynhwysir hefyd dau gerdyn ychwanegol o'r enw jocer, gyda llun o groesan.

Mae'n debyg i gardiau chwarae ymddangos yn gyntaf yn yr Hen Tsieina neu'r Hen India. Sonir am gardiau yn yr Eidal ym 1299, a datblygodd sawl ffurf wahanol ar draws Ewrop gyda siwtiau, niferoedd, a dyluniadau amrywiol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Playing cards. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2022.