Neidio i'r cynnwys

Cerddoriaeth ddawns electronig

Oddi ar Wicipedia
Cerddoriaeth ddawns electronig
Enghraifft o:genre gerddorol Edit this on Wikidata
Mathcerddoriaeth ddawns/cerddoriaeth clwb, cerddoriaeth electronig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1977 Edit this on Wikidata
Dynodwyr
QuoraElectronic-dance-music edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gŵyl EDM yn 2013 yn Plainfeld, Awstria gyda dros 100,000 o fynychwyr

Mae'r term cerddoriaeth ddawns electronig (Saesneg: Electronic dance music, EDM) yn cynnwys ystod eang o genres cerddoriaeth electronig gyda churiad cryf a wnaed yn wreiddiol ar gyfer clybiau nos, gwyliau a raves.[1] Fe'i cynhyrchir yn gyffredinol i'w chwarae gan DJs sy'n creu detholiadau di-dor o draciau trwy symud o un recordiad i'r llall.

Ledled Ewrop, mae EDM yn fwy adnabyddus fel "dance music" neu'n syml "dance".

Yn yr 1980s a'r 1990s cynnar, yn dilyn ymddangosiad cerddoriaeth rave, gorsafoedd radio answyddogol, a'r tŵf mewn diwylliant clwb, fe enillodd EDM boblogrwydd brif ffrwd yn Ewrop. Nid oedd cymhwysiad cyffredinol o ddiwylliant dawns yn yr Unol Daleithiau ar y pryd hynny, ac er bod Electro a cherddoriaeth Chicago house yn ddylanwadol iawn yn Ewrop ar UDA, arhosodd y cyfryngau prif ffrwd a'r diwylliant recordiau, yn elyniaethus tuag at EDM. Roedd hefyd barn gysylltiedig rhwng EDM a diwylliant gyffuriau a arweiniodd lywodraethau taleithiau a dinesig i gyflawni deddfau a polisiau a'r bwriad i atal lledaeniad o ddiwylliant rave.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Ellen Koskoff, Music Cultures in the United States: an Introduction (Routledge, 2004)