Neidio i'r cynnwys

Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham

Oddi ar Wicipedia
Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham
Enghraifft o:cerddorfa, sefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1920 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1920 Edit this on Wikidata
DechreuwydMedi 1920 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Gweithwyr104, 103, 107, 109, 115 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auCBSO Chorus Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://cbso.co.uk/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01thgpv edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham (a elwir hefyd yn CBSO) yn gerddorfa Brydeinig wedi ei lleoli yn Birmingham, Lloegr. Y gerddorfa yw cerddorfa breswyl Symphony Hall, Birmingham,

Yn flynyddol, mae CBSO yn perfformio mewn mwy na 150 cyngerdd, yn Birmingham, y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.

Yn 2025, y cyfarwyddwr cerdd oedd Kazuki Yamada.[1]

Mirga_and_the_CBSO_at_Symphony_Hall_29-01-2017
Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham yn 2017

Mae'r cyngherddau cerddorfaol cynharaf sydd ar gofnod yn Birmingham yn dyddio o 1740. Bu 20 cerddorfa wahanol yn bodoli yn y ddinas rhwng 1740 a sefydlu CBSO yn 1920.

Ar 17 Mawrth 1919, cyflwynodd Granville Bantock gynnig i Gyngor Dinas Birmingham am gerddorfa o 70 cerddor. Cytunodd y cyngor i roi grant o £1,250 y flwyddyn i'r gerddorfa, ac o ganlyniad i hyn, dyma'r gerddorfa Brydeinig gyntaf i gael ei hariannu'n gyhoeddus. Sefydlwyd y gerddorfa yn swyddogol ar 19 Gorffennaf 1919 o dan yr enw City of Birmingham Orchestra (CBO), ond roedd yr ymarfer cyntaf ar 4 Medi 1920. Yn ystod blynyddoedd cynnar y gerddorfa, roeddent yn cael eu hadnabod fel "The City Orchestra".

Yn 1948, roedd y gerddorfa yn swyddogol wedi newid ei enw i City of Birmingham Symphony Orchestra (CBSO).

Roedd ymddangosiad cyntaf y gerddorfa ar y teledu yn 1954.[2]

Prif arweinyddion a Chyfarwyddwyr Cerdd

[golygu | golygu cod]
Rattle_BPH-Rittershaus2-_Wikipedia
Syr Simon Rattle (1980-1998)
  • Appleby Mathews (1920-1924)
  • Adrian Boult (1924-1930)
  • Leslie Heward (1930–1943)
  • George Weldon (1944–1951)
  • Rudolf Schwarz (1951–1957)
  • Andrzej Panufnik (1957–1959)
  • Adrian Boult (1959–1960)
  • Hugo Rignold (1960–1969)
  • Louis Frémaux (1969–1978)
  • Simon Rattle (1980–1998)
  • Sakari Oramo (1998–2008)
  • Andris Nelsons (2008–2015)
  • Mirga Gražinytė-Tyla (2016–2022)
  • Kazuki Yamada (2023–heddiw)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Kazuki Yamada extends contract with CBSO". Classical Music. Cyrchwyd 12 Chwefror 2025.
  2. "CBSO MUCH MORE THAN JUST A REBRAND". ichoosebirmingham.com. Cyrchwyd 12 Chwefror 2025.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]