Neidio i'r cynnwys

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain

Oddi ar Wicipedia
Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain
Enghraifft o:youth orchestra, sefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1948 Edit this on Wikidata
Gweithwyr23 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Enw brodorolNational Youth Orchestra Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.nyo.org.uk Edit this on Wikidata

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain (NYO) yw cerddorfa ieuenctid genedlaethol y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd y gerddorfa yn 1948 gan y Fonesig Ruth Railton fel symbol o obaith i bobl ifanc y DU ar ôl Yr Ail Ryfel Byd.

Y Gerddorfa

[golygu | golygu cod]

Y gerddorfa yw prif weithgaredd y mudiad. Mae'r gerddorfa ar gyfer plant rhwng 13 ac 18 oed, sydd yn chwarae ar safon gradd 8 neu uwch. Mae'n rhaid gwneud clyweliad. Yn 2025, roedd 158 cerddor yn y gerddorfa.[1]

Cyrsiau

[golygu | golygu cod]

Mae’r gerddorfa’n cwrdd tair gwaith y flwyddyn am gyrsiau preswyl pythefnos o hyd: Yn y flwyddyn newydd, y Pasg a’r haf. Yn ogystal â’r brif weithgaredd gerddorfaol mae ganddynt amser i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys cerddoriaeth siambr, gweithdai corfforol, byrfyfyrio a sefydlu cyfeillgarwch.

Mae rhai o'r lleoliadau ar gyfer eu cyngherddau yn cynnwys: Barbican Hall, Llundain, Symphony Hall, Birmingham, Bridgewater Hall, Manceinion, The Sage Gateshead, Philharmonic Hall, Lerpwl a Royal Festival Hall, Llundain. Yn flynyddol, maent yn chwarae mewn Cyngerdd Proms yn Neuadd Frenhinol Albert i ddathlu talent ifanc Prydeinig.[2]

NYO Inspire

[golygu | golygu cod]

Mae NYO Inspire yn rhaglen ar gyfer arddegwyr sydd yn wynebu rhwystrau. Felly mae'n agored i blant sy'n mynychu ysgolion y wladwriaeth, neu'n derbyn eu haddysg gartref. Mae plant o dras lleiafrifoedd ethnig hefyd yn gallu cymryd rhan. Mae angen i bawb allu chwarae ar safon gradd 6 o leiaf. Does dim clyweliadau ar gyfer y rhaglen. Yn 2025, roedd 48% o'r plant yn y beif gerddorfa wedi mynychu NYO Inspire yn y gorffennol.

Cyn-fyfyrwyr nodedig

[golygu | golygu cod]
Rattle_BPH-Rittershaus2-_Wikipedia
Syr Simon Rattle (1971)
Enw Offeryn/Proffesiwn Offeryn yn y gerddorfa Aelodaeth
Syr Simon Rattle Arweinydd Offer Taro 1971
Judith Weir Cyfansoddwr Obo 1971-72
Thomas Adès Cyfansoddwr Offer Taro 1988
Kwame Ryan Arweinydd Bas dwbl 1988-90
Anna Lapwood Organydd Telyn 2012-13

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Meet the Musicians". The National Youth Orchestra. Cyrchwyd 26 Chwefror 2025.
  2. "NYO plays Mahler's First at the Proms". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 26 Chwefror 2025.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]