Neidio i'r cynnwys

Cerddorfa Ffilharmonig Berlin

Oddi ar Wicipedia
Cerddorfa Ffilharmonig Berlin
Enghraifft o:cerddorfa symffoni Edit this on Wikidata
GwladYr Almaen Edit this on Wikidata
Label recordioDeutsche Grammophon Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1882 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1882 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLandesarchiv Berlin Edit this on Wikidata
PencadlysBerliner Philharmonie Edit this on Wikidata
GwladwriaethYr Almaen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.berliner-philharmoniker.de/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/012_t_ edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Cerddorfa Ffilharmonig Berlin (Almaeneg:Berliner Philharmoniker) yn gerddorfa Almaenig wedi ei lleoli yn Berlin. Mae ymysg cerddorfeydd mwyaf poblogaidd y byd, ac mae wedi ennill llawer o wobrau, yn cynnwys Gwobrau Grammy, Gwobrau Gramophone a Classic Brit Awards.

Sefydlwyd y gerddorfa yn 1882 gyda 54 cerddor o dan yr enw Frühere Bilsesche Kapelle. Madeleine Carruzzo, oedd y fenyw gyntaf i gael clyweliad gan y gerddorfa yn 1982, union gan mlynedd ar ôl sefydlu'r gerddorfa. Cafodd hi le yn y gerddorfa.[1]

Neuadd gyngerdd

[golygu | golygu cod]
Neuadd gyngerdd Berlin Philharmonie

Agorwyd neuadd gyngerdd gyntaf y gerddorfa yn Kreuzberg, Berlin, yn 1882, mewn adeilad a ddefnyddiwyd yn y gorffenol fel llawr sglefrio. Dyma oedd cartref y gerddorfa nes i Brydain ei fomio ar 30 Ionawr 1944.[2] Yna, chwaraeodd y gerddorfa yn y Staatsoper ar stryd Unter den Linden, nes i'r adeilad hwnw gael ei ddinistrio ar 3 Chwefror 1945. Yn dilyn y rhyfel, roedden nhw'n chwarae mewn hen sinema. Yn y 1950au, symudwyd eu cyngherddau i'r Musikhochschule, sydd yn rhan o Brifysgol Celfyddydau Berlin heddiw.

Dechreuodd yr adeiladwaith ar gyfer y neuadd Philharmonie newydd yn 1961, wedi ei chynllunio gan y pensaer Hans Scharoun. Perfformiwyd Nawfed Symffoni Beethoven yn y cyngerdd agoriadol. Dyma gartref y gerddorfa hyd heddiw, ac mae logo siâp pentagon y gerddorfa wedi'i ysbridoli gan siâp y neuadd.

Ym mis Mai 2008, bu tân yn y Philharmonie.[3]

Prif Arweinyddion

[golygu | golygu cod]
Claudio Abbado, prif arweinydd 1989–2002
  • Ludwig von Brenner (1882–1887)
  • Hans von Bülow (1887–1893)
  • Richard Strauss (1894–1895)
  • Arthur Nikisch (1895–1922)
  • Wilhelm Furtwängler (1922–1945)
  • Leo Borchard (May–August 1945)
  • Sergiu Celibidache (1945–1952)
  • Wilhelm Furtwängler (1952–1954)
  • Herbert von Karajan (1954–1989)
  • Claudio Abbado (1989–2002)
  • Simon Rattle (2002–2018)
  • Kirill Petrenko (2019–heddiw)

Gwobrau Grammy

[golygu | golygu cod]
  • 1970 – Recordiad opera gorau
  • 1979 – Perfformiad cerddorfaol gorau
  • 1993 – Recordiad cerddorfaol gorau
  • 1995 – Perfformiad cerddoriaeth siambr gorau
  • 1998 – Perfformiad ensemble bach gorau
  • 2000 – Perfformiad lleisiol clasurol gorau
  • 2001 – Perfformiad cerddorfaol gorau
  • 2007 – Unawd offerynnol gorau gyda cherddorfa

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "From Mary Wurm to Susanna Mälkki". www.berliner-philharmoniker.de (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Mawrth 2026.
  2. "Philharmonie Berlin". Berlin Philharmonic Chamber Orchestra (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Mawrth 2026.
  3. "Fire at Berlin orchestra's home". 20 Mai 2008. Cyrchwyd 29 Mawrth 2026.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]