Parc Canolog, Dinbych
Parc Canolog, Dinbych | |
| Lleoliad | Dinbych |
|---|---|
| Gweithredwr | Cwmni Buddiant Cymunedol C.P.D. Tref Dinbych |
| Eisteddleoedd | 2,300 (600 sedd) |
| Arwynebedd | Glaswellt |
| Agorwyd | 1963 |
| Tenants | |
| C.P.D. Tref Dinbych (1963–presenol) | |
Mae Parc Canolog, Dinbych yn stadiwm bêl-droed yn Ninbych, Cymru. Fe'i hagorwyd ym 1963 ac mae wedi bod yn gartref i Dref Dinbych ers hynny.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Tref Dinbych ym 1876 a threuliodd y clwb yr 89 mlynedd cyntaf yn chwarae ar wahanol gaeau o amgylch y dref. Adeiladodd y clwb faes pêl-droed pwrpasol ym 1963.[1]
Wedi'i agor yn swyddogol yn Rhagfyr 1963, daeth y Parc Canolog yn gartref parhaol i'r clwb pêl-droed o hynny ymlaen. Roedd y maes yn cynnwys pafiliwn newydd gydag ystafelloedd newid a rhwystrau o amgylch y cae.
Ym Medi 2012 gosodwyd llifoleuadau am y tro cyntaf.[2]
Ymestynwyd y teras dan do, gan ddyblu ei faint a gosod 470 o seddi yn y strwythur. Agorodd yr eisteddle newydd yn swyddogol yn Awst 2017.[3]
Yn Awst 2021, ailosodwyd y cae er mwyn mynd i'r afael â phroblemau dŵr yn sefyll a diffyg draenio.[4] Gwnaed nifer o welliannau i'r maes gyda'r nod o alluogi Tref Dinbych i ymuno â'r Cymru Premier, haen uchaf pêl-droed Cymru.[5] Y gêm gyntaf wedi ailosod y cae oedd gêm ail rownd Cwpan Cymru ar 3 Medi yn erbyn Tref Caernarfon a ddarlledwyd yn fyw ar S4C.[6]
Yn Hydref 2023 cyhoeddodd y clwb fod Central Park wedi'i ddewis fel un o bum maes a fyddai'n cynnal gemau Pencampwriaethau Ewrop Dan-19 UEFA 2026. O ganlyniad i hyn, dechreuodd y clwb ddatblygu cyfleuster, o oedd am gostio saith ffigur, a oedd yn golygu dymchwel yr ystafelloedd newid gwreiddiol a'u disodli â chyfleuster cymunedol deulawr. Cwblhawyd y gwaith erbyn hydref 2025.[7]
Adeiladwyd ystafelloedd newid newydd yn 2024. Roedd y rhai blaenorol wedi sefyll am dros 60 mlynedd ers i'r maes gael ei adeiladu yn 1963.[8][9][10]
Roedd gwaith sylweddol yn 2025 yn cynnwys dau eisteddle newydd ar ochr bellaf y maes, teras y tu ôl i'r gôl pen Coleg Myddleton, gosod dyctiau ar draws y cae ar gyfer trydan i bweru gantri newydd, system VAR a dug outs newydd gyda lle ar gyfer 16 person. Gosodwyd rhwystrau newydd hefyd gan cynyddu capasiti'r maes i 2,300.[11][12][13] Ar gyfer tair gêm gyntaf tymor 2025–26, bu'n rhaid i Dref Dinbych chwarae ar feysydd eraill gan nad oedd y gwaith wedi'i gwblhau.[14] Ar 5 Medi 2025 dychwelodd y clwb i'r Parc Canolog.[15][16]
Gemau nodedig
[golygu | golygu cod]Yn 2022 cyhoeddwyd y byddai rhai o gemau Twrnamaint Datblygu UEFA dan 16 ym mis Awst yn cael eu chwarae yno. [17][18][19]
Ym mis Ebrill 2023 cynhaliwyd dwy gêm tîm menywod dan-19 Cymru. [20]
Ym mis Tachwedd 2023, dewiswyd Central Park fel un o bum maes a fyddai'n cynnal gemau cystadleuaeth y Darian Buddugoliaeth rhwng Cymru, yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon. [21]
Yn 2024 cynhaliwyd rownd derfynol (y gogledd) Cwpan Cynghrair Ail Haen Cymru, rownd derfynol Cwpan Cookson, a chymal cyntaf gêm Cwpan Rhanbarthau UEFA rhwng Cymru North a Cymru South. [22]
Bydd Central Park yn un o bum maes a fydd yn cynnal gemauPencampwriaethau Ewrop Dan-19 UEFA 2026. [23] O ganlyniad, mae'r maes wedi derbyn buddsoddiad sylweddol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru . [24]
Y dorf fwyaf erioed oedd ar Ddydd San Steffan 2023 pan drechodd Tref Dinbych Dref Rhuthun yng ngêm darbi Dyffryn Clwyd o flaen torf o 1,145. [25]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Soccer "Red Letter Day" at Denbigh - Free Press & North Wales Times, 21 Rhagfyr 1963
- ↑ "Floodlights Opening Ceremony". www.denbightownfc.co.uk.
- ↑ "Disappointing start for 10 men Town".
- ↑ Gregory, Rhys (Awst 25, 2021). "Denbigh Town's £200K new pitch makes TV debut in floodlit cup-tie".
- ↑ "Denbigh Town FC start work on £200k transformation of their home ground". Denbighshire Free Press. 24 Mawrth 2021.
- ↑ "Denbigh Town's newly re-laid pitch set to make TV debut". InYourArea.co.uk.
- ↑ "New six-figure facility at Denbigh Town FC's Central Park given green light". Denbighshire Free Press. 13 Mai 2024.
- ↑ Allen, Olly (4 Mehefin 2024). "New facilities mark new era at Denbigh Town's Central Park".
- ↑ "New six-figure facility at Denbigh Town FC's Central Park given green light". Denbighshire Free Press. 13 Mai 2024.
- ↑ "Fantastic news on the development front at Denbigh Town FC". 9 Mai 2024.
- ↑ FC, Denbigh Town. "Club Chairman Shon Powell sat down with us this week". X.
- ↑ "£2million redevelopment nears completion at Denbigh Town Football Club". Denbighshire Free Press. 19 Awst 2025.
- ↑ https://newsfromwales.co.uk/major-redevelopment-nears-completion-at-denbigh-towns-central-park/
- ↑ "Denbigh Town to play opening three games at alternative grounds". Denbighshire Free Press. July 3, 2025.
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Jones, Dave (September 5, 2025). "Denbigh Town Find Home Sweet Home in Cymru North". DragonSports.com.
- ↑ Lewis, Thomas (April 5, 2022). "Future footballing stars head to region as Spain and Brazil matches confirmed". North Wales Live.
- ↑ "Denbigh and Ruthin chosen to host international tournament". Awst 4, 2022.
- ↑ "'It's the biggest thing that's ever happened at the club'". Denbighshire Free Press. Ebrill 11, 2022.
- ↑ "It's fair to say that Cymru youngsters have taken a liking to Denbigh's pitch!". Denbighshire Free Press. Ebrill 11, 2023.
- ↑ "Denbigh Town's Central Park to host Victory Shield internationals". Hydref 16, 2023.
- ↑ "Three big games scheduled to take place at Denbigh Town Football Club's Central Park". Mawrth 16, 2024.
- ↑ Ellis, Callum (Medi 26, 2023). "Wales to host UEFA U19 Euro Championship 2026".
- ↑ "FAW invests £3m into north Wales football for U19 Euros tournament". BBC Sport. August 8, 2024.
- ↑ "REPORT | Denbigh Town 2-1 Ruthin Town". denbightownfc.co.uk.