Cenhedlaeth X

Oddi ar Wicipedia

Enw ar y garfan ddemograffig yn Unol Daleithiau America sydd yn olynu to'r ymchwydd babanod wedi'r Ail Ryfel Byd ac yn rhagflaenu'r milflwyddwyr yw Cenhedlaeth X. Mae'n cyfeirio at y genhedlaeth a aned rhwng dechrau'r 1960au a diwedd y 1970au neu ddechrau'r 1980au; y cyfnod 1965–80 yn ôl un cyfrif poblogaidd.[1] Yn ôl y diffiniad hwn, mae data Cyfrifiad yr Unol Daleithiau yn dangos bod rhyw 65.2 miliwn o aelodau Cenhedlaeth X yn fyw yn yr Unol Daleithiau yn 2019, rhwng oedrannau 38 a 54.[2][3] Mae'r mwyafrif o aelodau Cenhedlaeth X yn blant i'r Genhedlaeth Fud, neu aelodau hynaf yr ymchwydd babanod;[4][5] mae plant Cenhedlaeth X yn filflwyddwyr[4] neu yn Genhedlaeth Z.[6] Defnyddir y term hefyd mewn ambell wlad arall ym myd y Gorllewin.

Defnyddiwyd y term Cenhedlaeth X ers y 1950au i ddisgrifio ieuenctid sydd wedi ymddieithro o'r hen do neu sydd yn anfodlon â'r gymdeithas a'r diwylliant sydd ohoni. Poblogeiddiwyd yr enw yn sgil cyhoeddi'r nofel Generation X: Tales for an Accelerated Culture (1991) gan yr awdur Canadaidd Douglas Coupland.

Siapiwyd plentyndod ac arddegau Cenhedlaeth X gan newidiadau cymdeithasol a diwylliannol y 1960au a'r 1970au megis llwyddiant y Mudiad Hawliau Sifil a mwy o ferched yn y gweithlu, yr epidemig crac cocên ac haint HIV yn y 1980au, a datblygiadau technolegol, yn bennaf cyfrifiaduron yn y cartref a gemau fideo. Cafodd niferoedd cynyddol o blant eu magu heb fawr o ofal, o ganlyniad i gyfraddau uwch o ysgariad a mamau yn gweithio y tu allan i'r cartref, ac o'r herwydd cawsant eu galw'n "blant allwedd drws". Yn y 1980au a'r 1990au, cafodd yr ieuenctid ei gysylltu â stereoteip y slacker a'i ymagwedd sinigaidd, eironig, a sarcastig. Roedd hoff fathau o gerddoriaeth y genhedlaeth yn cynnwys pync-roc, ôl-pync, metel trwm, a grunge.

Cenhedlaeth X oedd y genhedlaeth olaf i gyrraedd llawn oed yn ystod y Rhyfel Oer; mae'r milflwyddwyr ar y cyfan yn rhy ifanc i gofio'r cyfnod hwnnw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Twenge, Jean (26 January 2018). "How Are Generations Named?". Trend. The Pew Charitable Trusts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 August 2018. Cyrchwyd 30 November 2019.
  2. "Gen Xer". Lexico. Oxford Dictionaries. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-27. Cyrchwyd 2 December 2019.
  3. Fry, Richard (April 28, 2020). "Millennials overtake Baby Boomers as America's largest generation". Pew Research Center. Cyrchwyd April 28, 2020.
  4. 4.0 4.1 Strauss, William; Howe, Neil (2000). Millennials Rising: The Next Great Generation. Cartoons by R.J. Matson. New York: Vintage Original. t. 54. ISBN 978-0375707193. Cyrchwyd 17 October 2013.
  5. Gordinier, Jeff (27 March 2008). X Saves the World: How Generation X Got the Shaft but Can Still Keep Everything from Sucking. Viking Adult. ISBN 978-0670018581.
  6. Williams, Alex (18 September 2015). "Move Over, Millennials, Here Comes Generation Z". The New York Times. Cyrchwyd 8 April 2016.