Cenddeil-lys
| Cenddeil-lys Blasia pusilla | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Rhaniad: | Marchantiophyta |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Blasiales |
| Teulu: | Blasiaceae |
| Genws: | Blasia Linnaeus 1753[1] |
| Rhywogaeth: | B. pusilla |
| Enw deuenwol | |
| Blasia pusilla Linnaeus 1753[1][2] | |
| Cyfystyron | |
| |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Cenddeil-lys (enw gwyddonol: Blasia pusilla; enw Saesneg: common kettlewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Blasiales, o fewn y dosbarth Marchantiopsida. Dyma'r unig rhywogaeth yn y genws Blasia.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru a phob gwlad arall ar ynys Prydain.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Gwahaniaethir rhyngddi a'r Cavicularia oherwydd fod ganddi goler o amgylch gwaelod y capsiwl sporoffit. Yn aml, mae'r paraseit a ffwng Blasiphalia i'w gweld yn rhisoidau ac egin y Blasia.
O ran maint, mae'n ganolig, ac mae'n ffurfio rhosynnau neu fatiau, gyda changhennau bychain hyd at 5 mm o led. Mae'r thalws ychydig yn dryloyw, heb fandyllau aer ar yr wyneb. Mae gan ymylon llabedi'r thalws ddannedd bach, crwn.
Cynefin
[golygu | golygu cod]Mae'r Cenddeil-lys yn gymharol gyffredin ac mae'n tyfu ar bridd llaith, graeanllyd ar hyd ffosydd, glannau afonydd, ochrau ffyrdd a thraciau coedwigaeth, hen chwareli ac weithiau, fel arfer ar haenau nad ydynt yn galchaidd, lle mae lleithder eitha cyson.
Llysiau'r afu
[golygu | golygu cod]- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[3] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.