Cen Williams
| Cen Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | Cen Williams Awst 1947 Ynys Môn |
| Galwedigaeth | athro, prifathro a bardd |
| Perthnasau | Dafydd Huw Williams brawd |
Prifardd Coronog Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997 yw Dr Cen Williams (ganwyd Awst 1947)[1] sy'n frodor o Ynys Môn.[2] Ar ôl dilyn gyrfa fel athro, ymunodd â staff y Coleg Normal ym Mangor a chael ei benodi’n ddirprwy brifathro’r sefydliad erbyn ei uno â Phrifysgol Cymru, Bangor, ym 1996. Fe’i penodwyd yn gyfarwyddwr cyntaf Canolfan Bedwyr.[2] Cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth gan gynnwys Eiliadau Tragwyddol yn 2015, a gyrhaeddodd restr fer categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016.[3] Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Cymru, Bangor yn 2017 "am ei wasanaethau i’r iaith Gymraeg".[4]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn enedigol o Ynys Môn, mae Cen wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ddiwylliant yr ynys ers blynyddoedd lawer. Mae’n adnabyddus fel bardd a beirniad, ac yn un o gyfranwyr brwd tîm Talwrn Bro Alaw, gyda llawer o’i waith wedi ei ysbrydoli gan fywyd ar yr ynys.[3]
Nodwyd gan Brifysgol Bangor yn 2017 "Mae canlyniadau ei gyfraniad at addysg i’w gweld yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gydag arbenigwyr blaenllaw'r byd ym maes addysg ddwyieithog yn cydnabod ei gyfraniad at addysg ddwyieithog. [...] Datblygodd ‘Cymraeg Clir’, a, thrwy ei secondiad yn 2000-02, bu’n gyfrifol am sefydlu’r corff a oedd yn rhagflaenydd i’r Coleg Cymraeg."[4]
Mae’n frawd i’r cyfarwyddwr teledu a ffilm Eurwyn Williams a’r diweddar Dafydd Huw Williams, cyn-gomisiynydd drama S4C a chynhyrchydd ffilm a theledu.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Beirdd Bro Eisteddfod Ynys Môn (Beirdd Bro'r Eisteddfod) (2017)
- Eiliadau Tragwyddol (2015)
- Ffansi'r Funud, Ffansi Oes (1999)
- Addysg Gymraeg, Addysg Gymreig (2003)
- Ennill Iaith (2002)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cen WILLIAMS personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-21.
- ↑ 2.0 2.1 "Cen Williams". Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod. Cyrchwyd 2025-10-21.
- ↑ 3.0 3.1 "Beirdd Bro Eisteddfod Ynys Môn | Cyhoeddiadau Barddas". Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod. Cyrchwyd 2025-10-21.
- ↑ 4.0 4.1 "Anrhydeddu cyfraniadau oes | Newyddion a Digwyddiadau | Prifysgol Bangor". www.bangor.ac.uk. Cyrchwyd 2025-10-21.