Cen Llwyd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cen Llwyd
Ganwyd29 Mawrth 1952 Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mehefin 2022 Edit this on Wikidata
Man preswylTalgarreg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, ymgyrchydd, bardd Edit this on Wikidata

Gweinidog, bardd ac ymgyrchydd o Dalgarreg oedd Cen Llwyd (29 Mawrth 1952 - 12 Mehefin 2022).[1][2]

Bywyd teuluol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn briod ag Enfys Llwyd, ac mae ganddynt ddau o blant, Heledd a Gwenllian.[3] Bu'n dioddef o glefyd Parkinson's ac o effeithiau strôc.[4] Cyn mynd i'r weinidogaeth, bu Cen Llwyd yn gweithio mewn ffatri wlân.[1]

Gyrfa fel gweinidog[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn gweithio fel gweinidog gyda'r Undodiaid ar gapeli Cribyn, Ciliau Aeron, Rhydygwin, Capel y Groes, Caeronnen Cellan ac Alltyblaca. Bu'n cyflwyno Munud i Feddwl ar Radio Cymru, ac fe gyhoeddodd gyfrol o'i gyfraniadau yn 2018.[1]

Ymgyrchydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n weithgar fel ymgyrchydd gyda Chymdeithas yr Iaith ac CND Cymru. Roedd yn aelod gweithgar o CND ac yn heddychwr a bu'n rhan o'r ymgyrch yn erbyn lleoli taflegrau niwclear yng Nghomin Greenham yn yr 1980au.[5] Fel rhan o'r ymgyrch dros sefydlu S4C, fe ddringodd fast Moel y Parc gydag Emyr Hywel a bu'n rhan o griw wnaeth feddiannu mast Nebo.[6] Ar Ionawr 27, 1979, carcharwyd Cen Llwyd ynghyd â'i wraig Enfys Llwyd a Twm Elias am iddynt wrthod dalu ffi'r drwydded.

Cafodd ei ethol i Gyngor Sir Ceredigion i gynrychioli Llandysiliogogo ar ran Plaid Cymru ym 1999 ac eto yn 2004.

Bardd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddodd y gyfrol o gerddi Diwrnod Bant ym 1982 fel rhan o Gyfres y Beirdd Answyddogol.[7] Yn ddiweddarach, daeth yn fuddugol ar gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Felinfach yn 2012, enillodd gadair Eisteddfod Abergorlech yn 2013 ac eto yn 2016, Cadair Eisteddfod Cenarth yn 2015, a Chadair Eisteddfod Pumsaint yn 2017. [8]

Englynion coffa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfansoddwyd englynion i Cen Llwyd gan Siôn Aled Owen ac Annes Glynn yn dilyn marwolaeth Cen

Englyn coffa gan Aled Siôn Owen[golygu | golygu cod y dudalen]

Cen[9]

Y cleniaf o’r eithafwyr - arweinydd
ar drin yr heddychwyr;
y gwiriaf o’r gwladgarwyr:
sicrach, cadarnach na dur.

Englyn coffa gan Annes Glynn[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafwyd englyn gan Annes Glynn[10]

Cen Llwyd

Un Cen oedd. Drwy'i acen e - yn ddi-ffael,
treiddiai'i ffydd a'r Pethe,
hithau'r iaith; ers mynd 'sha thre
yn ei eglwys mae gwagle.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Colli Cen Llwyd y gweinidog addfwyn". Clonc360. 2022-06-13. Cyrchwyd 2022-06-13.
  2. "Y Parchedig Cen Llwyd wedi marw yn 70 oed". Newyddion S4C. 13 Mehefin 2022.
  3. "Yr ymgyrchydd, heddychwr a gweinidog Cen Llwyd wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2022-06-13. Cyrchwyd 2022-06-13.
  4. "twitter.com/cenllwyd". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-13.
  5. "Tributes paid to minister and campaigner who 'gave his life and soul to the Welsh language and Wales'". Daily Post. 13 Mehefin 2022.
  6. S4C Pwy Dalodd Amdani. ISBN 9781847713124.
  7. "Diwrnod Bant (9780862430269) | Cen Llwyd | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2022-06-13.
  8. "RHESTRAU O ENILLWYR". CASGLU'R CADEIRIAU (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-13.
  9. "Cen". Facebook bersonol Siôn Aled Owen. 13 Mehefin 2022.
  10. "Cen Llwyd". Cyfrif Twitter bersonol Annes Glyn @Yr_Hen_Goes. 16 Mehefin 2022.