Cawcasws Lleiaf
Rhan o Fynyddoedd y Cawcasws yn Ewrasia, rhwng y Môr Du a Môr Caspia yw'r Cawcasws Lleiaf. Maent yn ffurfio cadwyn o fynyddoedd rhyw 100 km i'r de o'r Cawcasws Mwyaf. Y copa uchaf yn y Cawcasws Lleiaf yw Aragats yn Armenia, sy'n 4,095 m. o uchder.