Catrin Edwards
Catrin Edwards | |
---|---|
Galwedigaeth | Cyfansoddwraig, Cyfarwyddydd a Chynhyrchydd Teledu |
Cysylltir gyda | Theatr Bara Caws |
Cynhyrchydd, cyfarwyddydd a chyfansoddwraig ym myd theatr a theledu yw Catrin Edwards. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio yn y Cyfryngau yng Nghymru ers y 1970au. Roedd hi'n un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws ym 1977, a fel cerddor y cwmni bu'n gyfrifol am ganeuon a cherddoriaeth rhai o'r sioeau cynnar fel Bargen a Hwyliau'n Codi.[1]
Bu'n gweithio ar ochr gynhyrchu drama teledu a chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni drama a dogfen ers yr 1980au gan gynnwys y gyfres ddrama Traed mewn Cyffion.
Ers dechrau'r 1990au, mae Catrin wedi cynhyrchu a chyfarwyddo nifer helaeth o raglenni dogfen tra'n dal i gyfarwyddo'n achlysurol yn y theatr.
Gallwch chi glywed llais Catrin yn canu'r gân Hiraeth am Fethesda o'r sioe Bargen (1979) yma.
Caneuon eraill a gyfansoddwyd gan Catrin ar gyfer Theatr Bara Caws (1977-1981) i'w clywed ar dudalen Mae o'n brifo 'nghlust i (1981)
Gyrfa
[golygu | golygu cod](detholiad)
Theatr
[golygu | golygu cod]- Bargen (1979)
- Hwyliau'n Codi (1980) a (2013)
- Croeso i'r Roial,
- Merched yn Bendant
- Oes 'ma bobol
- Dwylo'i Fyny,
- Pawb a'i Fys
- Ffatri Serch
- Bedlam
- Celwydd
- Newid Aelwyd
- Melltith ar y Nyth 1988
- Gwlad y Cnau 1995
- Ede Hud / Magic Threads (1997-2004)
- Shinani'n Siarad (2004)
- ruth is stranger 1:Bubble (2004)
- Holl Liwie'r Enfys (2006)
- Cwm Gwaun Garw (2007)
- Llyfr Mawr y Plant (2008)
- Trafaelu ar y Tren Glas (2009)
- Theatre Versus Oppression: Pipeline (2010)
- Aderyn Du (2010)
- Tic Toc - prosiect ymchwil a datblygu (2016-2017)
- Tic Toc (2019-2023)
Teledu a ffilm
[golygu | golygu cod]- Traed mewn Cyffion
- Gwrthryfel Gwent (2014)
- Cofio Senghennydd (2012)
- Henry Richard: Yr Apostol Heddwch (2013)
- Mamwlad (2011)
- Busnes a (2010)
- O'r Galon: Frank Letch (2010)
- O'r Galon: Siwrne Sharon (2010)
- Trip yr Ysgol Gymraeg (2009)
- Yn y doc (2007)
- O'r Galon: Arthur Rowlands (2007)
- Aberfan (2006)
- David Lloyd George (2006)
- O'r Galon: Cyrraedd Blaenycwm cyn yr hwyr (2006)
- Rhyfel y Cymry (2006)
- Canolfan Mileniwm Cymru (2004)
- Pacio: Rajasthan (2003)
- Tongues of Fire (2003)
- Hafan Gobaith (2003)
- Pobol y Cwm (2002-2003)
- Sal (2002)
- High Performance
- Double Yellow: Sand Mandala (2001)
- O Flaen Dy Lygaid (2000 -
- Ar ôl yr Orsedd (1999)
- Beti a'r Gerddorfa (1999)
- The Slate: Brenda Chamberlin (1997)
- Canwr y Byd Caerdydd (1995 a 1997)
- Pris y Farchnad
- Tydi Coleg yn Grêt (1995)
- Mahlerfeest Amsterdam (1995)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Catrin Edwards". Catrin Edwards (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-24.