Catherine Cookson

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Catherine Cookson
Ffugenw Catherine Marchant, Katie McMullen, Catherine Cookson Edit this on Wikidata
Ganwyd Catherine Ann McMullen Edit this on Wikidata
20 Mehefin 1906 Edit this on Wikidata
South Shields, Tyne Dock Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Mehefin 1998 Edit this on Wikidata (91 oed)
Hastings Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth nofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Arddull romance novel Edit this on Wikidata
Gwobr/au Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Awdur toreithiog o Loegr oedd Catherine Cookson (27 Mehefin 1906 - 11 Mehefin 1998).

Ganed Catherine Ann McMullen yn South Shields, Tyne a Wear, a bu farw yn Newcastle upon Tyne. [1][2][3][4]

Yn 2019 roedd yn yr 20 nofelydd mwyaf poblogaidd gwledydd Prydain gyda dros 100 miliwn o'i llyfrau wedi'u gweerthu. Ysbrydolwyd ei llyfrau gan ei hieuenctid difreintiedig yn Ne Tyneside, Gogledd Ddwyrain Lloegr (Swydd Durham yr adeg honno), y lleoliad ar gyfer ei nofelau. Gyda mwy na 103 o deitlau wedi'u hysgrifennu yn ei henw ei hun neu ddau enw arall (gweler Llyfryddiaeth isod), hi yw un o'r nofelwyr mwyaf toreithiog o Loegr.[5]

Plentyndod[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn blentyn, fe'i gelwid yn "Kate". Symudodd i ddwyrain Jarrow, Swydd Durham, lleoliad poblogaidd yn ei nofelau diweddarach, yn enwedig The Fifteen Streets. Yn blentyn anghyfreithlon i alcoholig o'r enw Kate Fawcett, cafodd ei magu yn meddwl mai ei chwaer oedd ei mam ddi-briod, gan iddi gael ei magu gan ei mam-gu a'i thad-cu, Rose a John McMullen. Olrheiniodd y bywgraffydd Kathleen Jones ei thad, a'i enw oedd Alexander Davies, merchetwr a gamblwr o Swydd Lanark.[6][7]

Gadawodd yr ysgol yn 14 oed ac, ar ôl cyfnod o wasanaeth domestig, cymerodd swydd yn golchi dillad yn "Harton Workhouse" yn South Shields. Ym 1929, symudodd i'r de i redeg y golchdy yn "Hastings Workhouse", gan arbed pob ceiniog i brynu tŷ Fictoraidd mawr, gan gymryd lletywyr i ychwanegu at ei hincwm.[8]

West Hill House, Exmouth Place. Bu Catherine Cookson yn byw yma am gyfnod. Ceir cofeb ar y mur, gyda'r geiriau: Katie McMullen, later famous as writer Dame Catherine Cookson resident of Hastings 1930-76 lived here 1931-33.

Ym Mehefin 1940, yn 34 oed, priododd â Tom Cookson, athro yn Ysgol Ramadeg Hastings. Ar ôl colli pedwar plentyn, tra'n feichiog, darganfuwyd ei bod yn dioddef o glefyd fasgwlaidd prin, sef telangiectasia, sy'n achosi gwaedu o'r trwyn, y bysedd a'r stumog ac yn arwain at anemia. Dilynwyd yr erthyliadau hyn gan afiechyd meddwl dwys a barodd am ddegawd.[9][10][11]

Dechreuodd ysgrifennu fel math o therapi i fynd i'r afael â'i hiselder, ac ymunodd â Grŵp Awduron Hastings.

Yr awdures[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Kate Hannigan, yn 1950. Er i'w nofelau gael ei labelu fel "rhamant", mynegodd anfodlonrwydd gyda'r stereoteip hwn a dywedodd mai nofelau hanesyddol am bobl ac amodau roedd hi'n eu hadnabod oedd ei llyfrau.

Cyfieithwyd ei nofelau i o leiaf 20 iaith. Ysgrifennodd hefyd lyfrau dan y ffugenwau Catherine Marchant, gyda'r enw'n deillio o'i henw plentyndod, Katie McMullen. Parhaodd i fod yr awdur mwyaf poblogaidd (o ran benthyg o lyfrgelloedd cyhoeddus yn y DU) am 17 mlynedd, hyd at bedair blynedd ar ôl ei marwolaeth, gan golli'r safle cyntaf i Jacqueline Wilson yn 2002.[12]

Bibliography[golygu | golygu cod y dudalen]

Dan yr enw Catherine Cookson[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Fifteen Streets (1952)
  • Colour Blind (1953)
  • Maggie Rowan (1954)
  • Rooney (1957)
  • The Menagerie (1958)
  • Fanny McBride (1959)
  • Fenwick Houses (1960)
  • The Garment (1962)
  • The Blind Miller (1963)
  • The Wingless Bird (1964)
  • Hannah Massey (1964)
  • The Mists of Memory (1965)
  • The Long Corridor (1965)
  • Matty Doolin (1965)
  • The Unbaited Trap (1966)
  • Slinky Jane (1967)
  • Katie Mulholland (1967)
  • The Round Tower (1968)
  • The Nice Bloke (1969) aka The Husband (1969)
  • The Glass Virgin (1969)
  • The Invitation (1970)
  • The Dwelling Place (1971)
  • Feathers in the Fire (1971)
  • Pure as the Lily (1972)
  • The Invisible Cord (1975)
  • The Gambling Man (1975)
  • The Tide of Life (1976)
  • The Girl (1977)
  • The Cinder Path (1978)
  • The Man Who Cried (1979)
  • The Whip (1983) aka The Spaniard's Gift (1989)
  • The Black Velvet Gown (1984)
  • The Bannaman Legacy (1985) aka A Dinner of Herbs (1985)
  • The Moth (1986) a.k.a. The Thorman Inheritance (1989)
  • The Parson's Daughter (1987)
  • The Harrogate Secret (1988) aka The Secret
  • The Cultured Handmaiden (1988)
  • The Spaniard's Gift (1989) aka The Whip (1983)
  • The Black Candle (1989)
  • The Thorman Inheritance (1989) aka The Moth (1986)
  • The Gillyvors (1990) aka The Love Child (1991)
  • My Beloved Son (1991)
  • The Rag Nymph (1991) aka The Forester Girl (1993)
  • The House of Women (1992)
  • The Maltese Angel (1992)
  • The Golden Straw (1993)
  • The Forester Girl (1993) aka The Rag Nymph (1991)
  • The Year of the Virgins (1993)
  • The Tinker's Girl (1994)
  • Justice Is a Woman (1994)
  • A Ruthless Need (1995)
  • The Bonny Dawn (1996)
  • The Branded Man (1996)
  • The Lady on my Left (1997)
  • The Obsession (1997)
  • The Upstart (1998)
  • The Blind Years (1998)
  • Riley (1998)
  • Solace of Sin (1998)
  • The Desert Crop (1999)
  • The Thursday Friend (1999)
  • My Land of the North (1999)
  • A House Divided (2000)
  • Rosie of the River (2000)
  • The Simple Soul and Other Stories (2001)
  • Silent Lady (2002)

Cyfres Kate Hannigan[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Kate Hannigan (1950)
  • Kate Hannigan's Girl (2001)

Storiau Mary Ann[golygu | golygu cod y dudalen]

  • A Grand Man (1954)
  • The Lord and Mary Ann (1956)
  • The Devil and Mary Ann (1958)
  • Love and Mary Ann (1961)
  • Life and Mary Ann (1962)
  • Marriage and Mary Ann (1964)
  • Mary Ann's Angels (1965)
  • Mary Ann and Bill (1967)

Nofelau Mallen[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Mallen Streak (1973)
  • The Mallen Girl (1974)
  • The Mallen Litter (1974)

Trioleg Tilly Trotter[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Tilly Trotter aka Tilly (1980)
  • Tilly Trotter Wed aka Tilly Wed (1981)
  • Tilly Trotter Widowed aka Tilly Alone (1982)

Cyfres Hamilton[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Hamilton (1983)
  • Goodbye Hamilton (1984)
  • Harold (1985)

TriolegThe Bill Bailey[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bill Bailey (1986)
  • Bill Bailey's Lot (1987) aka Bill Bailey's Litter
  • Bill Bailey's Daughter (1988)
  • The Bondage of Love (1997)

Storiau i blant[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Joe and the Gladiator (1968)
  • The Nipper (1970)
  • Blue Baccy (1972) aka Rory's Fortune (1988)
  • Our John Willie (1974)
  • Mrs Flannagan's Trumpet (1976)
  • Go Tell It to Mrs Golightly (1977)
  • Lanky Jones (1981)
  • Nancy Nutall and the Mongrel (1982)
  • Rory's Fortune (1988) aka Blue Baccy (1972)
  • Bill and The Mary Ann Shaughnessy (1991)

Bywgraffiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Our Kate (1969)
  • Catherine Cookson Country (1986) aka My Land of the North (1999)
  • Let Me Make Myself Plain (1988)
  • Plainer Still (1995)
  • Just A Saying (2002)

Dan yr enw Catherine Marchant[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Heritage of Folly (1961) aka Heritage of Folly (1961)
  • The Fen Tiger (1963) aka The House on the Fens (1963)
  • House of Men (1963)
  • The Mists of Memory (1965) aka The Lady on my Left (1997)
  • The Iron Facade (1965) aka Evil at Rodgers Cross (1965)
  • Miss Martha Mary Crawford (1975)
  • The Slow Awakening (1976)

Dan yr enw Katie McMullen[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Heritage of Folly (1961) aka Heritage of Folly (1961)


Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118975834; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118975834; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Remnants_of_Cookson_Country_-_geograph.org.uk_-_76883.jpg.
  4. Dyddiad marw: Internet Movie Database, dynodwr IMDb nm0177541, https://www.imdb.com/, adalwyd 21 Gorffennaf 2015Wikidata Q37312 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118975834; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. bbc.co.uk; adalwyd 13 Mehefin 2019
  6. "Catherine Cookson". www.visitsouthtyneside.co.uk. Cyrchwyd 15 Ionawr 2018.
  7. shieldsgazette.com; adalwyd 13 Mehefin 2019
  8. shieldsgazette.com; adalwyd 13 Mehefin 2019
  9. Jr, Robert McG Thomas (12 June 1998). "Catherine Cookson, 91, Prolific British Author". Cyrchwyd 15 Ionawr 2018 – via NYTimes.com.
  10. bbc.co.uk; adalwyd 13 Mehefin 2019
  11. shieldsgazette.com; adalwyd 13 Mehefin 2019
  12. "Public Lending Right" (PDF). Cyrchwyd 15 Ionawr 2018.