Castellu (gwyddbwyll)

Oddi ar Wicipedia
Castellu rhan 1
Castellu rhan 2
Castellu arall rhan 2

Mae un symudiad arbennig iawn mewn Gwyddbwyll sy'n cynnwys dau ddarn o'r un lliw, sef castellu. Mae fel arfer yn werth castellu gan ei fod yn gallu rhoi'r Brenin mewn man mwy diogel, ac an datblygu darn arall, sef y Castell.

Mae'r llun cyntaf yn dangos y ddau ddewis sydd gan gwyn yn yr achos hwn, sef castellu ochr y Brenin a chastellu ochr y Frenhines. Yn yr ail lun dewisodd gwyn gastellu ochr y Frenhines, ac yn trydydd ochr y Brenin.

Cyn medru castellu:

  • Rhaid bod y Brenin a'r Castell sydd i fod i gastellu heb symud.
  • Ni cheir gastellu i ddod mas o Siach.
  • All y Brenin ddim groesi sgwâr sy'n cael ei fygwth gan y gelyn.
  • Rhaid i'r sgwariau rhwng y Brenin a'r Castell fod yn wag.
  • Gellir castellu serch hynny os yw'r Castell yn cael ei fygwth neu'n symud i sgwâr sy'n cael ei fygwth.