Castellamare di Stabia
![]() | |
Math | dinas, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 62,772 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Nawddsant | Catellus of Castellammare ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Fetropolitan Napoli ![]() |
Gwlad | yr Eidal ![]() |
Arwynebedd | 17.81 km² ![]() |
Uwch y môr | 6 ±1 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Gragnano, Lettere, Pimonte, Pompei, Santa Maria la Carità, Torre Annunziata, Vico Equense ![]() |
Cyfesurynnau | 40.6947°N 14.4803°E ![]() |
Cod post | 80053 ![]() |
![]() | |
Castellammare di Stabia yw bwrdeistref (comune) yn Ninas Fetropolitan Napoli, rhanbarth Campania, yn ne'r Eidal. Fe'i lleolir ar Fae Napoli tua 30 km (19 mi) i'r de-ddwyrain o Napoli, ar y llwybr i Sorrento. Bu farw’r awdur Rhufeinig Plinius yr Hynaf yng Nghastellamare yn ystod ffrwydrad Mynydd Vesuvius yn 79.
Yr hen dref "Stabiae" oedd un o dair yr effeithiwyd arnynt gan ffrwydrad Vesuvius, ynghyd â Pompeii a Herculaneum.
Hanes
[golygu | golygu cod]Codwyd y castell, y mae'r ddinas fodern yn cymryd ei enw ohono, tua'r 9fed ganrif ar fryn ar ochr ddeheuol Gwlff Napoli.
Ym mis Ebrill 2025, bu damwain ar Fynydd Faito (Monte Faito), lle mae car cebl yn cysylltu'r dref â Napoli. Lladdwyd pedwar teithiwr, gan gynnwys dau o Brydeinwyr.[1] Dim ond un ddamwain angheuol oedd wedi bod yn flaenorol, ym 1960.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Baddonau thermol[2]
- Castell
- Eglwys gadeiriol
- Eglwys San Bartolomeo
- Eglwys Santa Caterina
- Villa Arianna
- Villa San Marco[3]
|
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Luigi Denza (1846-1922), cyfansoddwr[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dau o Brydain wedi marw mewn damwain car cebl yn Yr Eidal". Newyddion S4C. 18 Ebrill 2025. Cyrchwyd 18 Ebrill 2025.
- ↑ The Atlas of Dream Places: A Grand Tour of the World's Best-loved Destinations (yn Saesneg). Konecky & Konecky. 2002. t. 114. ISBN 9781568523576.
- ↑ "Geomatics and Ancient Architecture: the study of Villa San Marco and the Baths of Stabiae". archaeopresspublishing.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Ebrill 2025.
- ↑ James J. Fuld (2000). The book of world-famous music: classical, popular, and folk (yn Saesneg). Dover Publications. t. 240. ISBN 9780486414751.