Castell Stormont

Oddi ar Wicipedia
Castell Stormont
Delwedd:Stormont Castle - geograph.org.uk - 964434.jpg, Stormont Castle Stormont Estate.jpg
Mathplasty Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBelffast Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Cyfesurynnau54.602°N 5.83016°W Edit this on Wikidata
Map
Am gartref Cynulliad Gogledd Iwerddon, sef Stormont ar lafar, gweler Adeilad y Senedd (Gogledd Iwerddon).

Lleolir Castell Stormont ar Ystâd Stormont yn nwyrain Belffast, Gogledd Iwerddon. Yn y cyn-blasdy barwnaidd hwn mae Cabinet Gogledd Iwerddon, a sefydlwyd ar ôl adfer llywodraeth ddatgonoledig, yn cwrdd. Ar hyn o bryd mae'r Cabinet yn cael ei arwain gan Peter Robinson a Martin McGuinness.

O 1921 hyd 1972, gwasanaethodd Castell Stormont fel prif gartref Prif Weinidog Gogledd Iwerddon. Ond dewisodd rhai prif weinidogion fyw yn Nhŷ Stormont, cartref swyddogol Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, a oedd yn wag fel rheol am fod y rhan fwyaf o'r llefarwyr yn dewis byw gartref. Yma hefyd bu Stafell Cabinet Llywodraeth Gogledd Iwerddon o 1921 hyd 1972.

Cyn y datganoli presennol, y plasdy oedd pencadlys Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon ym Melffast, gweinidogion Swyddfa Gogledd Iwerddon a'i swyddogion. Yng nghyfnod yr Helyntion roedd yn cael ei ddefnyddio gan swyddogion cudd MI5 hefyd [1]

Castell Stormont Castle, man cyfarfod Cabinet Gogledd Iwerddon

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]