Castell Rhyfel

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Castell Rhyfel (bryngaer))
Jump to navigation Jump to search
Castell Rhyfel (bryngaer)
Castell Rhyfel
Castell Rhyfel, Tregaron

Mae Castell Rhyfel yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Tregaron yn sir Ceredigion, Cymru; cyfeirnod OS: SN732598.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Castell Rhyfel.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD066.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[2] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[3] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[4]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  3. Gwefan y BBC
  4. Gwefan CPAT
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: