Castell Pictwn
Engrafiad o Gastell Pictwn, tua 1830 | |
| Math | castell, plasty gwledig, amgueddfa |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Benfro |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 39.4 metr |
| Cyfesurynnau | 51.7841°N 4.88538°W |
| Cod OS | SN0107613430 |
| Cod post | SA62 4AS |
![]() | |
| Perchnogaeth | Teulu Wogan, Owain Dwnn, Teulu Philipps, John Philipps |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Castell yng nghymuned Uzmaston, Boulston a Slebets ger Hwlffordd, Sir Benfro, yw Castell Pictwn (Saesneg: Picton Castle).
Codwyd y castell gwreiddiol ar ddiwedd y 13g gan Syr John Wogan ac mae'n dal i gael ei ddefnyddio gan ei ddisgynyddion, y teulu Philipps.
Erbyn heddiw mae'r castell yng ngofal Ymddiriedolaeth Castell Pictwn (Picton Castle Trust). Mae wedi cael ei adnewyddu yn sylweddol sawl gwaith, yn 1697 gan Syr John Philipps (un o sylfaenwyr y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol) ac yn 1749-52 hefyd, ond mae'n cadw llawer o'r nodweddion canoloesol gyda ffenestri mawr wedi'u gosod yn y muriau allanol gwreiddiol.

Enwir y barc Cymreig Picton Castle (a ddefnyddir yng Nghanada fel llong hwyliau i hyfforddi morwyr ifainc) ar ôl y castell.
Mae gan y castell dros 40 erw (160,000 m2) o erddi sy'n agored i'r cyhoedd.
Yn 2006, dechreuwyd adeiladu pentref gwyliau 'Bluestones' yma. Bu llawer o brotestion ynghylch y cynllun, gan fod rhan o'r safle ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan y castell
