Castell Hearst
![]() | |
Math |
plasty, tirnod, California State Historic Park ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
William Randolph Hearst ![]() |
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Hearst San Simeon State Historical Monument ![]() |
Sir |
San Simeon ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
35.6852°N 121.167°W ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol |
Spanish Colonial Revival architecture, Mediterranean Revival architecture ![]() |
Perchnogaeth |
William Randolph Hearst ![]() |
Statws treftadaeth |
National Historic Landmark, ar Gyfrestr Llefydd Hanesyddol, California Historical Landmark ![]() |
Manylion | |
Plasty ger San Simeon, Califfornia yw Castell Hearst. Lleolir ar Ffordd 1 tua hanner ffordd rhwng San Francisco a Los Angeles. Perchennog y castell oedd William Randolph Hearst (1863-1951), a oedd yn flaellaw ym myd papurau newydd a chylchgronau. Roedd ganddo dir a thai ar draws y byd, gan gynnwys Castell Sain Dunwyd ym Mro Morgannwg. Roedd Hearst wedi teithio ar draws Ewrop pan oedd yn ddeg oed, ac am weddill ei oes roedd yn awyddus i gael cartref tebyg i'r rhai y gwelodd yno. Cydweithiodd efo'r pensaer Julia Morgan dros gyfnod o 28 mlynedd, gan ddechrau ym 1919, er mwyn creu Castell Hearst. Mae'r gwestai a ymwelodd a'r castell yn cynnwys Calvin Coolidge, Winston Churchill, George Bernard Shaw, Charles Lindbergh a Charlie Chaplin.[1]. Mae gan Y Cuesta Encantada (Y Bryn Swynol) 127 acer o erddi, terasau a phyllau, ac roedd yna sŵ.[2] Mae gan y prif dŷ, La Casa Grande, 116 ystafell a a sawl bwthyn ar gyfer gwestai.