Castell Dolbadarn (paentiad)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Dolbadarn gan J. M. W. Turner (1775-1851).

Darlun gan J. M. W. Turner (1775-1851) mewn paent olew yw Castell Dolbadarn (enw gwreiddiol: Dolbadarn Castle) a baentiwyd yn Haf 1798-1799. Astudiodd yr arlunydd dirlun Cymru'n helaeth yn ystod ei arhosiad yno gan gofnodi ardal Dolbadarn, Llanberis a rhannau eraill o Eryri mewn llyfr sgetsio sydd heddiw'n cael ei gadw yn y Tate Britain (Cofnod: TB XLVI) a llyfrau eraill. Pan ddychwelodd i'w stiwdio yn Llundain aeth ati o ddifri i ddatblygu'r syniadau a dechreuodd brosiect enfawr o greu lluniau o Ogledd Cymru, ac yn eu plith - y llun hwn. Cedwir y darlun ei hun yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]

Er mai dyfrlliw oedd ei gyfrwng ar y dechrau, wedi dychwelyd i Lundain, newidiodd i olew a chynigiodd nifer o'i weithiau i'r Academi Frenhinol fel rhan o'i ddiploma, yn 1800.[2]

Digwyddiad hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r paentiad hwn yn dangos digwyddiad hanesyddol, dychmygol, ond wedi'i seilio ar ffeithiau, sef Owain Goch, brawd y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd (neu Lywelyn yr Ail). Carcharwyd Owain gan ei frawd yng Nghastell Dolbadarn, welir yng nghanoldir y llun, am gyfnod rhwng 1255 a 1277 pan gafodd ei ryddhau. Gwelir Owain yn y llun mewn gwisg goch. Roedd carcharu Owain yn ddigwyddiad hanesyddol pwysig, gan olygu fod Llywelyn yn rhydd i ganolbwyntio ar uno Cymru gyfan yn erbyn y Sais.[3]

Teithio drwy Gymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymwelodd a Chymru am y tro cyntaf yn 1792, pan deithiodd drwy Dde Cymru. Ar ei ail ymweliad, yn 1794, bu yn Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Dychwelodd y flwyddyn wedyn am ysbaid ond yn 1798 arhosodd am lawer hirach, gan deithio drwy ddyfryn Wysg, Ceredigion, Aberystwyth, Gwynedd a Llangollen. Yn ystod ei deithiau profodd ei ymweliad â Dolbadarn yn un o uchafbwyntiau ei fywyd a thynnodd lun y mynyddoedd ac ysbryd cymylau a'r awyrgylch nes ddod i adnabod Eryri fel cefn ei law.[4]

Manylion am y darlun[golygu | golygu cod y dudalen]

Comisiynwyd y ffrâm yn arbennig ar gyfer y paentiad gan John Jones, o Lundain tua 1940au. Prynwyd y darlun gan y Llyfrgell drwy gymorth nawdd gan y National Art Collection Fund (The Art Fund) a'r Loteri Cenedlaethol. Olew ar banel pren yw'r cyfrwng ac mae'r rhan weladwy yn mesur 45.5 x 30 cm., a'r ffrâm yn 62 x 50 cm.[5]

Europeana 280[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect "Gwaith Celf Europeana".[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. tate.org.uk; adalwyd 13 Ebrill 2016. Mae'r wefan yn dangos sgets o waith cynharach Turner, cyn paentio'r llun gorffenedig.
  2. Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 13 Ebrill 2016
  3. Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 13 Ebrill 2016
  4. tate.org.uk; adalwyd Ebrill 2016.
  5. Gwefan y BBC; adalwyd 13 Ebrill 2016
  6. Gwefan Europeana; adalwyd 11 Rhagfyr 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]