Castell Caeron
Math | lloc |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.839377°N 4.626568°W |
Amddiffynfa gynhanesyddol yn Llŷn, Gwynedd, yw Castell Caeron. Mae'n gaer gyda muriau o gerrig a leolir ar fryncyn creigiog ar lethrau gogledd-orllewinol Mynydd Rhiw ger Bryncroes.[1]
Yn ôl pob tebyg mae'r gaer hon yn dyddio o Oes yr Haearn.[1] Mae'n gorwedd ger yr hen lwybr hanesyddol i Aberdaron ac Ynys Enlli ym mhen eithaf penrhyn Llŷn.
Nid yw'r gaer wedi'i chofrestru fel bryngaer gan Cadw.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Oes yr Haearn yng Nghymru
- Rhestr o fryngaerau Cymru
- Rhestr o fryngaerau yng Nghymru wedi'u cofrestru