Castell Berkeley
Gwedd
| Math | amgueddfa tŷ hanesyddol, castell, amgueddfa hanes |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Berkeley |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaerloyw (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 23 metr |
| Cyfesurynnau | 51.6886°N 2.4569°W |
| Cod OS | ST6851498984 |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
| Manylion | |
Castell yn nhref Berkeley, Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, yw Castell Berkeley. Mae'n dyddio'n ôl i'r 11g, ac mae wedi bod yn adeilad rhestredig Gradd I ers 1952.[1]
Castell mwnt a beili oedd y castell cyntaf yma, a adeiladwyd tua 1067 gan yr arglwydd Normanaidd William FitzOsbern yn fuan ar ôl y Goresgyniad Lloegr. Fe'i hailadeiladwyd gan Roger de Berkeley yn y 12g ac mae wedi aros ym mherchnogaeth y teulu Berkeley hyd heddiw.
Pan ddiorseddwyd Edward II, brenin Lloegr, gan ei wraig Isabelle o Ffrainc a'i chynghreiriad Roger Mortimer ym 1327, cafodd y brenin ei garcharu yn y castell. Fe'i llofruddiwyd yno ar 21 Medi 1327.
-
Golygfa allanol y castell
-
Cwrt y castell
-
Drws yn y cwrt
-
Gorthwr y castell
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Berkeley Castle", Gwefan Historic England, adalwyd 25 Hydref 2020
