Neidio i'r cynnwys

Casnewydd Islwyn (etholaeth Senedd)

Oddi ar Wicipedia
Casnewydd Islwyn
Enghraifft o:ardal etholiadol arfaethedig, etholaeth Senedd Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Un o etholaethau'r Senedd yw Casnewydd Islwyn, a ffurfiwyd ar gyfer etholiad 2026. Yr enw Cymraeg a ddefnyddir hefyd yn Saesneg.

Bydd yr etholaeth hon yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (AS).

Fe'i cynigiwyd yn dilyn adolygiad 2024 o etholaethau'r Senedd, ac fe'i ffurfiwyd drwy uno dwy o etholaethau Senedd y Deyrnas Unedig, sef Dwyrain Casnewydd ar y naill law a Gorllewin Casnewydd ac Islwyn ar y llall. Bydd y ffiniau'n cael eu hadolygu eto cyn etholiad 2030.

Ffiniau

[golygu | golygu cod]

Cadarnhawyd y ffiniau a'r enw Cymraeg yn unig yn argymhellion terfynol y comisiwn ym mis Mawrth 2025.[1]

Mae'n cynnwys sir (hynny yw, prif ardal) Casnewydd yn ei chyfanrwydd, a rhan o ardal Caerffili. Mae'r etholaeth i'w sefydlu erbyn 2026, yn dilyn pasio Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Y ddeddf hon sy'n dod â'r newidiadau i rym, fel ag i greu 16 "uwch-etholaeth" sy'n cyfuno dwy o 32 etholaeth Senedd y Deyrnas Unedig yng Nghymru bob un. Maent yn defnyddio system bleidleisio gyfrannol newydd, gyda phob etholaeth yn ethol chwe Aelod o'r Senedd (AS) yn hytrach nag un fel a wnaed yn y gorffennol.[2]

Etholiadau

[golygu | golygu cod]

Etholiad 2026

[golygu | golygu cod]
Etholiad Senedd Cymru, 2026: Casnewydd Islwyn
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur
- - -
Plaid Cymru
  1. Peredur Owen Griffiths

[3]

- - -
Democratiaid Rhyddfrydol
  1. Mike Hamilton
  2. John Miller[4]
- - -
Ceidwadwyr
  1. Natasha Asghar
  2. Toby Jones
  3. Jake Enea
- - -
Gwyrdd
  1. Rachel Roberts
- - -

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Price, Emily (2025-03-11). "New Senedd 'super constituencies' confirmed". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-03-11.
  2. Hayward, Will (2024-09-02). "The full details of Wales' 16 new constituencies for Senedd elections". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-02-28.
  3. https://ci.plaid.cymru/senedd2026
  4. https://www.demrhydd.cymru/casnewydd-islwyn