Casablanca (ffilm)
Gwedd
| Cyfarwyddwr | Michael Curtiz |
|---|---|
| Cynhyrchydd | Hal B. Wallis |
| Ysgrifennwr | Sgript: Julius J. Epstein Philip G. Epstein Howard Koch Casey Robinson (digredyd) Drama: Murray Burnett Joan Alison |
| Serennu | Humphrey Bogart Ingrid Bergman Paul Henreid Claude Rains |
| Cerddoriaeth | Max Steiner |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Warner Bros. |
| Dyddiad rhyddhau | 26 Tachwedd, 1942 (Noson agoriadol yn Ninas Efrog Newydd) 23 Ionawr, 1943 (rhyddhad cyffredinol UDA) |
| Amser rhedeg | 102 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm ddrama ramantaidd Americanaidd o 1942 ydy Casablanca. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Michael Curtiz, ac mae'n serennu Humphrey Bogart, Ingrid Bergman a Paul Henreid yn ogystal â Claude Rains, Conrad Veidt, Sydney Greenstreet a Peter Lorre. Lleolir y ffilm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a ffocysa ar y gwrthdaro ym mywyd dyn rhwng cariad a rhinwedd. Rhaid iddo ddewis rhwng ei gariad tuag at wraig a'i helpu hi a'i gŵr i ddianc o'r ddinas Morocaidd, Casablanca sydd dan reolaeth y Llywodraeth Vichy yn Ffrainc er mwyn parhau â'i frwydr yn erbyn yr Natsiaid.