Neidio i'r cynnwys

Carwyn Eckley

Oddi ar Wicipedia
Carwyn Eckley
Ganwyd1996 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr a bardd yw Carwyn Eckley (ganwyd 1996). Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024, un o'r ieuengaf erioed i gyflawni'r gamp, yn 28 oed.

Astudiodd gwrs gradd mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n gweithio gyda adran Gymraeg ITV Cymru.

Dysgodd gynganeddu mewn gwersi gydag Eurig Salisbury, ac yna gyda Rhys Iorwerth. Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2020-21. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber o Gaernarfon.[1]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Magwyd Carwyn ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle. Yn 2024 roedd e'n byw yng Nghaerdydd.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Carwyn Eckley yn ennill Cadair Eisteddfod Rhondda Cynon Taf". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-09. Cyrchwyd 2024-08-09.
  2. "Carwyn Eckley yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-08-09. Cyrchwyd 2024-08-09.