Carreg Coetan Arthur
| Math | cromlech, siambr gladdu |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Benfro |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.018595°N 4.828203°W |
| Rheolir gan | Cadw |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cadw |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | PE056 |
- Gweler hefyd Coetan Arthur (gwahaniaethu).
Cromlech yw Carreg Coetan Arthur (hefyd Coetan Arthur; weithiau hefyd 'Carreg Coetan'), sy'n gorwedd mewn cae ger pentref Trefdraeth yn Sir Benfro. Cyfeiriad AO (map 145): SN 060394.[1]

Gweddillion siambr gladdu Neolithig ydyw. Ceir maen clo mawr sy'n cael ei gynnal gan ddau o'r pedwar maen sy'n dal i sefyll. Dim ond olion sy'n weddill o'r domen bridd a orchuddiai'r siambr. Ceir ambell garreg o'i gwmpas sy'n rhoi awgrym o siâp y beddrod gwreiddiol pan gafodd ei adeiladu yn Oes Newydd y Cerrig. Mae cynllun y meini yn awgrymu cysylltiad gyda dosbarth o siambrau claddu Neolithig yn Iwerddon y cyfeirir atynt yn Saesneg fel "portal dolmens".[2] Yn y cyfnod cynhanesyddol a dechrau'r cyfnod hanesyddol bu cysylltiadau cryf rhwng Dyfed a de-ddwyrain Iwerddon.
Mae Carreg Coetan Arthur yn un o sawl heneb a nodwedd ddaearyddol yng Nghymru a gysylltir â chylch y Brenin Arthur, ond does dim cysylltiad hanesyddol.
Mae'r gromlech yng ngofal Cadw a cheir mynediad dirwystr iddi gan y cyhoedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cadw". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-14. Cyrchwyd 2010-03-02.
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1978), tud. 178.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Tudalen ar wefan Cadw Archifwyd 2010-12-14 yn y Peiriant Wayback
