Caroline Rémy de Guebhard
Caroline Rémy de Guebhard | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Arthur Vingtras, Séverine, Séverin ![]() |
Ganwyd | Caroline Rémy ![]() 27 Ebrill 1855 ![]() Paris ![]() |
Bu farw | 24 Ebrill 1929 ![]() Pierrefonds ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ymgyrchydd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, perchennog cyfryngau, ymgyrchydd dros hawliau merched, golygydd ![]() |
Plaid Wleidyddol | Adran Ffrengig o'r Gweithwyr Rhyngwladol, Plaid Gomiwnyddol Ffrengig ![]() |
Priod | Antoine-Henri Montrobert, Adrien Guébhard ![]() |
Partner | Jules Vallès, Georges de Labruyère ![]() |
Plant | Roland Guebhard ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ffeminist o Ffrainc oedd Caroline Rémy de Guebhard (27 Ebrill 1855 - 24 Ebrill 1929) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd, newyddiadurwr, perchennog busnes, ffeminist a swffragét.[1].
Cafodd ei geni ym Mharis ar 27 Ebrill 1855 a bu farw yn Pierrefonds yn department Oise. Bu'n briod i Antoine-Henri Montrobert, Adrien Guébhard ac yna i Georges de Labruyère ac roedd Roland Guebhard yn blentyn iddi.[2][3][4][5][6][7]
Yr ymgyrchydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Tua 1880, dechreuodd Caroline Rémy ymwneud â'r cyhoeddiad sosialaidd Cri du Peuple, gyda Jules Vallès. Bu'n rhaid i Vallès ildio'i rheolaeth o'r papur newydd oherwydd afiechyd. Daeth yn fwy-fwy gwleidyddol asgell chwith ei natur, a daeth yn ffrindiau gyda chyd-newyddiadurwr ffeministaidd, Marguerite Durand, ond yn dilyn gwrthdaro â'r Marcsydd Jules Guesde gadawodd y papur newydd ym 1888. Daliodd ati i sgwennu am bapurau eraill a oedd yn hybu statws a hawliau menywod ac yn amlygu anghyfiawnder cymdeithasol o bob math. Ym 1897, dechreuodd ysgrifennu i bapur newydd ffeministaidd Durand, sef La Fronde.[8]
Fel ymgyrchydd asgell chwith eithafol, roedd Rémy yn cefnogi rhai o'r achosion anarchaidd gan gynnwys amddiffyn Germaine Berton a chymerodd ran yn 1927 i achub yr Eidalwyr anarchaidd Sacco a Vanzetti a gyhuddwyd o lofruddiaeth. Cefnogodd Chwyldro Rwsia ym 1917 ac ym 1921 ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Ffrainc; fodd bynnag, dim ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe adawodd y blaid er mwyn cynnal ei haelodaeth yn y Gynghrair Hawliau Dynol (Ffrainc).
Bu'n aelod o Adran Ffrengig o'r Gweithwyr Rhyngwladol a Phlaid Gomiwnyddol Ffrengig.
Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu'n aelod o Gynghrair Hawliau Dynol am rai blynyddoedd. [9]
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Dictionnaire des anarchistes, « Le Maitron » : SÉVERINE (Caroline RÉMY, dite).
- ↑ Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Rhyw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad geni: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad marw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Man geni: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Évelyne Le Garrec, Séverine, une rebelle 1855-1929 (édition du Seuil, 1982), t. 308.
- ↑ Françoise Blum, « Séverine ou la recherche d'une justice perdue », in Mil neuf cent, rhif 11, 1993, t. 94.
- ↑ Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.