Carole Seymour-Jones
Carole Seymour-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mawrth 1943 Tywyn |
Bu farw | 23 Mai 2015 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, cofiannydd |
Awdur Cymreig a ysgrifennai cofiannau yn yr iaith Saesneg oedd Carole Veronica Gillian Seymour-Jones (3 Mawrth 1943 - 23 Mai 2015).[1]
Cefndir[golygu | golygu cod]
Ganwyd Seymour-Jones yn Nhywyn, Meirionydd, yn ferch i lawfeddyg clust, trwyn a gwddf amlwg, Anthony Seymour-Jones, a'i wraig, Elizabeth (née Pinches), ond cafodd ei magu yn Southsea, Hampshire. Astudiodd hanes yn Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen, ond gadawodd ar ôl ei blwyddyn gyntaf, dan bwysau teuluol, i briodi'r brocer stoc cyfoethog Robert Bigland. Cwblhaodd ei gradd hanes gyda’r Brifysgol Agored, wrth fagu pedwar o blant, ac enillodd ei gradd meistr ym Mhrifysgol Sussex. Dysgodd Seymour-Jones hanes i oedolion ym Mhrifysgol Surrey ac mewn ysgol chweched dosbarth.[2]
Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]
Er ei bod wedi bod yn ysgrifennu llyfrau addysgol ers rhai blynyddoedd, dechreuodd ei gyrfa fel cofiannydd ar ôl chwalfa ei phriodas gyntaf ar ôl 26 mlynedd yn gynnar yn y 1990au. Hi oedd awdur Beatrice Webb : A Life (1992);[3] Painted Shadow: The Life of Vivienne Eliot, First Wife of TS Eliot (2001) [4], a ysgrifennodd fel cymrawd ymweliadol ym Mhrifysgol Texas yn Austin; ac A Dangerous Liaison (2009) [5], am y berthynas rhwng Simone de Beauvoir a Jean-Paul Sartre. Ei llyfr olaf a gyhoeddwyd yn 2013 oedd She Landed by Moonlight, hanes yr ysbïwraig Pearl Witherington [6]. Bu hefyd yn cyd-olygu Writers Under Siege: Voices of Freedom from Around the World (2007). Ysgrifennodd hefyd ar gyfer y New Statesman a'r Times Higher Education Supplement. Gwasanaethodd ar bwyllgor gwaith PEN Lloegr, cymdeithas i ysgrifenwyr, rhwng 1997 a 2001, gan eisteddodd ar ei Phwyllgor Llyfrau i Garcharorion, a chadeirio ei Phwyllgor Awduron mewn Carchardai.
Marwolaeth[golygu | golygu cod]
Cyfarfu Seymour-Jones â'r swyddog prawf a'r dramodydd radio Geoffrey Parkinson ym 1992; priododd y cwpl yn 2012. Bu farw Parkinson yn 2014; Bu farw Seymour-Jones ei hun ar 23 Mai 2015.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Niven, Alastair (2015-07-23). "Carole Seymour-Jones obituary". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-10-11.
- ↑ "Carole Seymour-Jones, biographer - obituary". 2015-06-24. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2019-10-11.
- ↑ Seymour-Jones, Carole (1992). Beatrice Webb : a life (arg. 1st American ed). Chicago: I.R. Dee. ISBN 1566630010. OCLC 25832749.CS1 maint: extra text (link)
- ↑ Seymour-Jones, Carole. (2001). Painted shadow : a life of Vivienne Eliot. London: Constable. ISBN 0094792704. OCLC 491635278.
- ↑ Seymour-Jones, Carole. (2009). A dangerous liaison : a revelatory new biography of Simone de Beauvoir and Jean-Paul Sartre (arg. 1st ed). New York: Overlook Press. ISBN 9781590202685. OCLC 320798794.CS1 maint: extra text (link)
- ↑ "She Landed by Moonlight, by Carole Seymour-Jones – review". The Spectator. 2013-07-13. Cyrchwyd 2019-10-11.