Neidio i'r cynnwys

Carole King

Oddi ar Wicipedia
Carole King
FfugenwCarole King Edit this on Wikidata
GanwydCarol Joan Klein Edit this on Wikidata
9 Chwefror 1942 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Label recordioA&M Records, Entertainment One Music, Epic Records, Ode Records, Sony Music Entertainment, Koch Records, EMI, Priority Records, RCA Records, Columbia Graphophone Company Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg y Frenhines, Efrog Newydd
  • James Madison High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, cerddor, actor, canwr, cyfansoddwr, pianydd, actor teledu, actor ffilm, actor llais, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, roc meddal, roc gwerin, blue-eyed soul, canol y ffordd, cerddoriaeth gyfoes i oedolion, Brill Building Edit this on Wikidata
PriodGerry Goffin Edit this on Wikidata
PlantLouise Goffin Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Ymddiriedolwyr Grammy, Person MusiCares y Flwyddyn, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Gershwin, gwobr Johnny Mercer, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Rock and Roll Hall of Fame, Rock and Roll Hall of Fame Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.caroleking.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Cantores, cyfansoddwr a cherddor o'r Unol Daleithiau yw Carole King (ganed 9 Chwefror 1942).

Mae hi'n enwog am ei chyfraniadau helaeth i gerddoriaeth boblogaidd, gan gynnwys ysgrifennu neu gyd-ysgrifennu 118 o ganeuon a gyrhaeddodd siart Billboard Hot 100 a 61 o ganeuon ar siartiau'r DU. Hi oedd y cyfansoddwr benywaidd mwyaf llwyddiannus ar siartiau senglau'r DU rhwng 1962 a 2005. Yn y 1960au, cyfansoddodd King a'i gŵr cyntaf, Gerry Goffin, dros ddau ddwsin o ganeuon poblogaidd i wahanol artistiaid. Trawsnewidiodd i yrfa berfformio unigol yn y 1970au, gyda'i halbwm Tapestry (1971) yn cyrraedd brig siart albwm yr UD am 15 wythnos. Mae King wedi rhyddhau 25 o albymau unigol ac wedi gwerthu dros 75 miliwn o recordiau ledled y byd. Mae ei hanrhydeddau yn cynnwys pedwar Gwobr Grammy ac enwebiadau i Oriel Anfarwolion Cyfansoddwyr Caneuon ac Oriel Anfarwolion Roc a Rôl.[1][2]

Cafodd ei geni yn Brooklyn, Newydd Efrog. Priododd â Gerry Goffin ym 1959 ac fe wnaethon nhw weithio gyda'i gilydd fel cyfansoddwyr caneuon tan eu hysgariad ym 1968.[3][4] Bu iddynt ddwy ferch. Priododd dair gwaith arall: â Charles Larkey ym 1970 (ysg. 1976); â Rick Evers ym 1977 (ysg. 1978); â Rick Sorenson ym 1982 o hyd 1989.[5][6]

Albymau

[golygu | golygu cod]
  • 1970: Writer
  • 1971: Tapestry
  • 1971: Music
  • 1972: Rhymes & Reasons
  • 1973: Fantasy]]
  • 1974: Wrap Around Joy
  • 1976: Thoroughbred
  • 1977: Simple Things
  • 1978: Welcome Home
  • 1979: Touch the Sky
  • 1980: Pearls: Songs of Goffin and King
  • 1982: One to One
  • 1983: Speeding Time
  • 1989: City Streets
  • 1993: Colour of Your Dreams
  • 2001: Love Makes the World

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Dyddiad geni: "Carole King". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Carole King". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Carole King". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Carole King". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Weller, Sheila (2008). Girls Like Us: Carole King, Joni Mitchell, Carly Simon-and the Journey of a Generation. New York: Washington Square Press. ISBN 978-0-7434-9147-1.
  4. Brown, Helen (22 Ebrill 2009). "Carole King interview". The Daily Telegraph (yn Saesneg). Llundain. ISSN 0307-1235. OCLC 49632006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 17 Mawrth 2013.
  5. Horsburgh, Susan. "Harmonic Emergence". People (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2013.
  6. Thomson, Liz (April 19, 2012). "A Natural Woman: A Memoir, By Carole King". The Independent (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 5 Mehefin 2018.