Carmen de Patagones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Canol Carmen de Patagones o'r awyr.

Carmen de Patagones, weithiau Patagones, yw dref fwyaf deheuol Talaith Buenos Aires yn yr Ariannin. Saif ar lan ogleddol y Río Negro, gyferbyn a Viedma, prifddinas Talaith Río Negro ar y lan arall. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 18,189.

Sefydlwyd y dref fel Nuestra Señora del Carmen yn 1779 gan y Sbaenwr Francisco de Biedma y Narváez. Pan sefydlwyd y Wladfa yn Nyffryn Camwy yn 1865, Carmen de Patagones oedd y dref fwyaf deheuol yn yr Ariannin, a chludwyd nwyddau oddi yno i'r gwladfawyr mewn llongau.

Flag of Argentina.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Ariannin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.