Neidio i'r cynnwys

Carly Chaikin

Oddi ar Wicipedia
Carly Chaikin
Ganwyd26 Mawrth 1990 Edit this on Wikidata
Santa Monica Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Archer School for Girls Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu, actor ffilm, arlunydd Edit this on Wikidata
Taldra173 centimetr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.carlychaikinart.com Edit this on Wikidata

Mae Carly Hannah Chaikin (ganed 26 Mawrth 1990) yn actores Americanaidd. Mae ar hyn o bryd yn serennu yn y ddrama deledu USA Network Mr. Robot.

Ganwyd Chaikin yn Sant Monica, Califfornia i dad sy'n gweithio fel cardiolegydd a mam sy'n gweithio fel ffisiotherapydd. Fe'i magwyd fel Iddewes.[1][2]

Mynychodd Ysgol Ferched Archer, ysgol uwchradd yn Los Angeles. Tra yno, chwaraeodd sawl camp, gan gynnwys pêl-foli, pêl-feddal, pêl-fasged, a phêl-droed.[3]

Mae gan Chaikin 11 tatŵ, gydag un ohonynt yn cynnwys geiriau un o ganeuon Bob Dylan.[4]

Dechreuodd Chaikin actio yn 2009 gyda pherfformiad fel Veronica yn y ffilm The Consultants. Aeth yn ei blaen i ymddangos mewn ffilmiau eraill, megis The Last Song (2010) gyda Miley Cyrus[5] a My Uncle Rafael (2012) gyda John Michael Higgins.[2]

Daeth i amlygrwydd yn 2011 am ei pherfformiad fel Dalia Oprah Royce[6] yn y comedi sefyllfa ABC Suburgatory (2011–2014), a fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Deledu Dewis y Beirniaid ar gyfer yr Actores Gefnogol Orau mewn Cyfres Gomedi.[7] Yn 2014, fe'i chastiwyd, ynghyd â Rami Malek a Christian Slater,[8] yn y gyfres deledu USA Network Mr. Robot.[9][10] Chwaraea Darlene, aelod o 'fsociety', grŵp sy'n ysgrifennu cod maleisus.[11][12]

Yn ogystal ag actio, mae Chaikin yn ysgrifennu a chynhyrchu ffilmiau byr, gan gynnwys Happy Fucking Birthday a Nowhere to Go. Canmolwyd Nowhere to Go yng Ngŵyl Ffilmiau FirstGlance yn 2013.[13]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2009 The Consultants Veronica
2010 The Last Song Blaze
2011 Escapee Lynne Petersen
2012 My Uncle Rafael Kim
2013 In a World... Excruciating
2015 Bad Blood Frances

Teledu

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2011–2014 Suburgatory Dalia Royce Prif gast; 50 o benodau
Enwebwyd—Gwobr Deledu Dewis y Beirniaid ar gyfer yr Actores Gefnogol Orau mewn Cyfres Gomedi[14]
Enwebwyd—Gwobr Ddewis y Plant yn eu harddegau ar gyfer y Dihiryn Teledu Gorau
2012 Harder Than It Looks Katie 2 bennod: "Sisters" a "The Tutors"
NTSF:SD:SUV:: Brittany Pennod: "16 Hop Street"
2015 Maron Tina Pennod: "Professor of Desire"
2015–presennol Mr. Robot Darlene Prif gast; 10 pennod

Ffilmiau byr a gwe-gyfresi

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2012 Harder Than It Looks Katie Gwe-gyfres; 2 bennod
2012 Nowhere to Go[15] Austyn Ffilm fer; hefyd yn ysgrifenwraig ac uwch-gynhyrchydd
2013 Happy Fucking Birthday Maddy McDowell Ffilm fer
2014 Dissonance Julia Ffilm fer; hefyd yn gynhyrchydd
2014 Literally[16] Ffilm fer

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Carly Chaikin, Celebrity – Biography". TV Guide. Cyrchwyd 3 July 2015.
  2. 2.0 2.1 Steely, Jon (March 2010). "Introducing Carly Chaikin". Venice Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 June 2010. Cyrchwyd 13 March 2012.
  3. Garron, Barry (22 August 2011). "SM Native Quickly Becomes TV Star". Santa Monica Patch. Cyrchwyd 3 July 2015.
  4. Brody, Caitlin (16 October 2012). "Suburgatory's Carly Chaikin is Nothing Like Her Character, Dalia. Count the Tattoos for Proof!". Glamour. Cyrchwyd 4 July 2015.
  5. O., Courtney (16 June 2009). "'The Last Song' Goes Into Production". MovieWeb. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-29. Cyrchwyd 18 January 2010.
  6. Ryan, Maureen (9 May 2012). "'Suburgatory's' Dalia Speaks: Carly Chaikin On One Tan And Funny Chatswin Resident". Huffington Post. Cyrchwyd 3 July 2015.
  7. The Deadline Team (22 May 2013). "HBO, FX Lead Critics' Choice TV Awards – But Where Are 'Mad Men', 'Modern Family'?". Deadline.com. Cyrchwyd 22 May 2013.
  8. The Deadline Team (11 September 2011). "Portia Doubleday, Carly Chaikin Join USA Pilot 'Mr. Robot'; Rupert Evans In Amazon's 'Man In The High Castle'". Deadline.com. Cyrchwyd 3 July 2015.
  9. Ng, Philiana (11 September 2014). "'Suburgatory,' 'Her' Alums to Co-Star in USA's Hacker Drama 'Mr. Robot'". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 3 July 2015.
  10. "Darlene – Played by Carly Chaikin". USA Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-05. Cyrchwyd 3 July 2015.
  11. Tang, Jenny (9 April 2015). "Interview with Mr Robot cast at SXSW 2015". Nerdgeist. Cyrchwyd 4 July 2015.
  12. Nickalls, Sammy (24 June 2015). "Nerding out with Carly Chaikin: On her new show 'Mr. Robot,' and her HelloGiggles series 'Literally'". Hello Giggles. Cyrchwyd 4 July 2015.
  13. "Dalia Royce Played by Carly Chaikin". ABC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 29 September 2014.
  14. Nordyke, Kimberly; Wilson Hunt, Stacey (10 June 2013). "Critics' Choice Television Awards: Complete Winners List". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 3 July 2015.
  15. Nowhere to Go ar Vimeo
  16. "Literally". YouTube. Cyrchwyd 4 July 2015.