Carlo Borromeo
Jump to navigation
Jump to search
Carlo Borromeo | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 2 Hydref 1538 ![]() Arona ![]() |
Bu farw | 3 Tachwedd 1584 ![]() Milan ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd, offeiriad Catholig, chwil-lyswr, diacon ![]() |
Swydd | Metropolitan Archbishop of Milan, cardinal-ysgrifennydd yr Esgobaeth Sanctaidd, camerlengo, cardinal-offeiriad, cardinal-nai, cardinal ![]() |
Dydd gŵyl | 4 Tachwedd ![]() |
Tad | Giberto II Borromeo ![]() |
Mam | Margherita Medici ![]() |
Perthnasau | Carlo Gesualdo, Pab Pïws IV, Federico Borromeo, Giulio Cesare Borromeo, Gian Giacomo Medici ![]() |
Llinach | House of Borromeo ![]() |
Cardinal yr Eglwys oedd Carlo Borromeo (2 Hydref 1538 – 4 Tachwedd 1584). Mae'n un o seintiau'r Eglwys Gatholig Rufeinig.[1]
Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Chwaraeodd rôl bwysig yng Nghyngor Trent ym mis Ionawr 1562. Daeth yn Archesgob Milan ym 1565, lle cyflwynodd ddiwygiadau gweinyddol sylweddol. Roedd yn arweinydd brwd y Gwrthddiwygiad, gan deithio i'r Swistir yn y frwydr yn erbyn Protestaniaeth. Yn ystod y pla yn Milan ym 1576 aeth allan yn gyson ar y strydoedd i ddosbarthu elusennau i'r anghenus. Bu farw yn 46 oed, a chafodd ei ganoneiddio fel sant ym 1610.
Roedd Gruffydd Robert yn gweithio iddo fel cyffeswr a chanon duwinyddol o ganol y 1560au tan 1582.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Zephyrin Engelhardt (1973). Mission San Carlos Borromeo (Carmelo); the Father of the Missions (yn Saesneg). Ballena Press. t. 240.