Neidio i'r cynnwys

Cariad Mr Bustl

Oddi ar Wicipedia
Cariad Mr Bustl
Enghraifft o:drama lwyfan
AwdurCyfieithiad Gareth Miles o waith Molière
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1666 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1666 Edit this on Wikidata
Genrecomedi dychanu moesau Edit this on Wikidata
CymeriadauAlceste, Arsinoë, Célimène, Philinte, Oronte, Éliante, Clitandre, Guard, Du Bois, Basque, Acaste Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afSalle du Palais-Royal Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithParis Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfieithiad Cymraeg Gareth Miles o gomedi enwog Molière Le Misanthrope ou l'Atrabilaire amoureux yw Cariad Mr Bustl [neu'r cyfieithiad llythrennol Cymraeg Y Dyngasáwr neu'r Bustlog Cariadus][1] (Saesneg: The Misanthrope, or the Cantankerous Lover). Cyfansoddwyd y ddrama farddonol wreiddiol yn yr 17eg ganrif a'i pherfformio am y tro cyntaf ar 4 Mehefin 1666 yn y Théâtre du Palais-Royal, Paris gan y King's Players.[2] Llwyfannwyd y cyfieithiad Cymraeg gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2007.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
Cymeriadau Molière Cymeriadau Miles Disgrifiad
Alceste Alex / Mr Bustl cyflafanwr y ddrama a "Mr Bustl" yn y teitl; bu Molière ei hun yn ei bortreadu yn y llwyfaniad cyntaf.
Célimène Selina gwraig ifanc sydd wedi ennill serch yr holl ddynion.
Philinte Philippe cyfaill caredig Mr Bustl
Acaste Acasto ardalwr [marcwis] honfawr.
Oronte Oscar cariad arall i Selina
Arsinoé Artenna gwraig hŷn foesol
Éliante Elianna cariad Philippe a chyfneither Selina
Citandre Colimandro ardalwr [marcwis] arall sydd yn serchu am Selina
Basque Marta gwas / morwyn Selina
Du Bois Carlo gwas Mr Bustl
Guard Swyddog y Llys

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Criw o ddynion o gefndiroedd gwahanol, yn brwydro ar draws ei gilydd i geisio llaw’r weddw gyfoethog, Selina [Célimène] yw canolbwynt y plot. Yn eu mysg, mae’r dywededig ‘Mr Bustl’ neu Alex [Alceste], sy'n pregethu am werthoedd cymdeithas a phwysigrwydd siarad yn blaen. Mae’r eironi ei eiriau yn amlwg, ac yn ei ymdrech i ddatgan ei gariad o’r mwyaf tuag at Selina, mae’n canfod ei hun mewn dŵr poeth cyfreithiol.

Disgrifia Saunders Lewis y prif gymeriad Célimène [Selina] fel "Gweddw brydferth ugain oed [...] yn byw yn y cylch uchaf ym Mharis [...] Cynnyrch uchaf gwareiddiad yw [...] a chonfensiwn cymdeithas yn elfen ei bod. O'i chymharu â hi nid yw Cleopatra namyn barbariad a wrida'n anniddig o'i blaen gan gydnabod yn y Ffrances sicrwydd ymddygiad a hunan-feddiant a phertrwydd caboledig ymadrodd, na allai ymerodres y dwyrain ond gwladeiddio ger eu bron".[1] Gwêl Gareth Miles gysylltiad rhwng y cymeriad yma a phrif gymeriadau dramâu diweddarach Saunders ei hun fel Siwan, Esther, Iris [Gymerwch chi Sigaret?] a Bet [Cymru Fydd].[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Mae'r ddrama wreiddiol yn dychanu rhagrith y gymdeithas aristocrataidd yn Ffrainc, gan hefyd dynnu sylw at y diffygion sy'n effeithio ar bob bod dynol. Mae'r ddrama'n wahanol i ffarsiau eraill y cyfnod am ei bod hi'n defnyddio cymeriadau deinamig fel Alceste a Célimène yn hytrach na defnyddio'r caricatwrau dychanol traddodiadol. Er nad oedd y ddrama wreiddiol yn llwyddiant masnachol yn ei hamser, mae'n goroesi heddiw fel gwaith mwyaf adnabyddus Molière.

Geilw Gareth Miles comedïau Molière "yn gampweithiau dyneiddiol sy'n dathlu 'mawredd ysbryd dyn' ac yn llonni ei galon yr un pryd".[1]

Addasiad Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Gweld cynhyrchiad o ddrama arall [L'Avare] gan Molière pan yn fyfyriwr ym Mharis yn y 1960au oedd un "atgof llawen" a ddaeth i feddwl Gareth Miles wrth fynd ati i "drosi" y ddrama ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru yn 2007.[1] Nododd hefyd, er mai "Y Dyngasáwr neu'r Bustlog Cariadus" yw'r cyfieithiad llythrennol, tybiodd "fod Cariad Mr Bustl yn deitl mwy dengar".[1]

Canmolodd Lowri Rhys Davies y sgript, wrth adolygu'r cyfieithiad Cymraeg yn 2007, gan nodi ei bod hi'n "gyforiog o ddywediadau bachog a hiwmor crafog sy'n llwyddo i gyfleu deallusrwydd a doniolwch y gwreiddiol."[3] Canmoliaeth oedd gan adolygydd theatr Y Cymro yn ogystal a nododd mai "Cyfoeth cyfieithiad hyfryd Gareth Miles - oedd yn llithro mor rhwydd nes peri i rywun amau os mai cyfieithiad ta ddrama wreiddiol oedd yma."[4]

"A yw'r gomedi hon, a sgrifennwyd bedwar cant a deugain o flynyddoedd yn ôl, yn berthnasol heddiw?", holodd Gareth Miles yn 2007.[1] Atebodd ei hun fel a ganlyn: "Rwy'n credu ei bod hi, ond wna i ddim difetha'ch hwyl wrth esbonio pam. Dywedai Molière mai ei amcan oedd 'diwygio'r ddynoliaeth wrth ei ddiddanu'. Bydd y Gyfarwyddwraig, y Cwmni a minnau'n fodlon os llwyddwn i'ch diddanu", oedd ei neges yn Rhaglen cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o'r ddrama yn 2007.[1]

Ni chyhoeddwyd yr addasiad / cyfieithiad Cymraeg hyd yma.

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Ffrangeg ar 4 Mehefin 1666 yn y Théâtre du Palais-Royal, Paris gan y King's Players.

Rhaglen cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru 2007

Yn 2007 y bu'r llwyfanniad cyntaf o'r ddrama yn y Gymraeg, a hynny gan Theatr Genedlaethol Cymru o dan gyfarwyddyd Judith Roberts; cynllun set a gwisgoedd Colin Falconer; goleuo Iestyn Griffiths; cyfansoddwr Conor Linehan; cast:[1]

Cloi "Tymor y Clasuron" yn arlwy theatrig 2007 Cefin Roberts fel arweinydd artistig Theatr Genedlaethol Cymru oedd y cynhyrchiad hwn. Cymeradwyo'r Theatr Genedlaethol am lwyfannu'r cyfieithiad wnaeth Lowri Rhys Davies wrth adolygu'r cynhyrchiad ar wefan BBC Cymru, "gan fod y dychanol a'r doniol yn greaduriaid mor brin yn ein traddodiad theatrig, a chynyrchiadau Cymreig o waith Molière yn brinnach fyth," ychwanegodd.[3] .

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 Rhaglen Cariad Mr Bustl. Theatr Genedlaethol Cymru. 2007.
  2. Molière (23 June 1968). The Misanthrope, and Other Plays. New American Library. Cyrchwyd 23 June 2018.
  3. 3.0 3.1 "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-09-24.
  4. Griffiths, Paul (2007-05-25). "Paul Griffiths: 'Cariad Mr Bustl'". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2025-09-24.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]