Captain Underpants (cyfres nofelau plant)
| Enghraifft o: | cyfres o lyfrau i blant |
|---|---|
| Awdur | Dav Pilkey |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Iaith | Saesneg |
| Genre | ffuglen ddigrif, ffuglen i blant |
| Cymeriadau | George Beard, Harold Hutchins, Captain Underpants |
| Yn cynnwys | The Adventures of Captain Underpants, Captain Underpants and the Attack of the Talking Toilets, Captain Underpants and the Invasion of the Incredibly Naughty Cafeteria Ladies from Outer Space, Captain Underpants and the Perilous Plot of Professor Poopypants, Captain Underpants and the Wrath of the Wicked Wedgie Woman, Captain Underpants and the Big, Bad Battle of the Bionic Booger Boy, Captain Underpants and the Preposterous Plight of the Purple Potty People, Captain Underpants and the Terrifying Re-Turn of Tippy Tinkletrousers, Captain Underpants and the Revolting Revenge of the Radioactive Robo-Boxers, Captain Underpants and the Tyrannical Retaliation of the Turbo Toilet 2000, Captain Underpants and the Sensational Saga of Sir Stinks-A-Lot |
| Lleoliad y gwaith | Piqua |
| Gwefan | https://pilkey.com/series/captain-underpants |
| Dynodwyr | |
| ISBN-13 | 978-85-7503-010-3 |
Cyfres o nofelau plant darluniedig gan Dav Pilkey, awdur a darlunydd o'r Unol Daleithiau, yw Captain Underpants. Mae'r gyfres yn seiliedig ar anturiaethau dau fachgen, George Beard a Harold Hutchins, sy'n byw yn Piqua, Ohio, a "Captain Underpants", arwr un o'r llyfrau comig mae'r bechgyn yn ei greu. Yn y gyfres, mae'r cymeriad comig Captain Underpants yn dod yn berson "go iawn" ar ôl i George a Harold hypnoteiddio eu prifathro blin, Mr Krupp. Mae Mr Krupp yn datblygu uwch-bwerau trwy yfed suddion estron yn y trydydd llyfr.
Ar ddechrau 2019, roedd y gyfres yn cynnwys 12 llyfr a 10 o weithiau deilliedig, ac enillodd Wobr Dewis y Plant gan Disney Adventures ar 4 Ebrill 2006. Ers 2016, mae'r gyfres wedi'i chyfieithu i dros 30 o ieithoedd,[1] gyda dros 80 miliwn o lyfrau wedi'u gwerthu ledled y byd,[1] gan gynnwys dros 50 miliwn yn yr Unol Daleithiau.[2] Llwyddodd DreamWorks Animation i sicrhau'r hawl i wneud addasiad ffilm animeiddiedig a rhyddhawyd y ffilm ar 2 Mehefin 2017.
Ar ôl i'r brif gyfres gyrraedd ei diwedd gyda'r ddeuddegfed nofel, Captain Underpants and the Sensational Saga of Sir Stinks-A-Lot, yn 2015, rhyddhawyd cyfres o weithiau yn deillio ohoni o'r enw Dog Man yn 2016.[3] Roedd saith o lyfrau'r gyfres hon wedi'u cyhoeddi ar ddechrau 2019.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Captain Underpants Saves The Day By Recruiting Top Comedy Talent To Voice New DreamWorks Animation Film". PR Newswire. 21 Ionawr 2014. Cyrchwyd 22 Ionawr 2014.
- ↑ Kit, Borys (25 Hydref 2013). "Rob Letterman to Direct 'Captain Underpants' for DWA (Exclusive)". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 26 Hydref 2013.
- ↑ Lee Yandoli, Krystie (2 Mawrth 2016). "Here's A Look Inside The New "Captain Underpants" Spin-Off Story". BuzzFeed. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2016.