Capella
Gwedd
| Enghraifft o: | lluos-seren, seren forwriaethol |
|---|---|
| Rhan o | Hecsagon y Gaeaf |
| Cytser | Auriga |
| Pellter o'r Ddaear | 13 |
| Paralacs (π) | 76.67 ±0.17 |
| Cyflymder rheiddiol | 29.6 ±0.5 cilometr yr eiliad |
| Tymheredd | 5,272 Kelvin |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04nbk0 |
Seren yng nghytser Auriga yw Capella neu yr Afr[1] (hefyd α Aur, α Aurigae, Alpha Aurigae[angen ffynhonnell]). Mae ganddi faint ymddangosol o 0.08. Dyma'r drydedd o'r sêr disgleiriaf a welir yn hemisffer wybrennol y gogledd (ar ôl Arcturus a Vega), a'r chweched o'r sêr disgleiriaf yn y ddau hemisffer.[2] Mae'n seren gymharol agos, dim ond 42.9 o flynyddoedd golau o'r Ddaear. Er ei bod yn ymddangos fel un seren i'r llygad noeth, grŵp o bedair seren yw Capella mewn gwirionedd.

Mae'r enw "Capella" yn golygu "gafr fach" yn Lladin.