Capel Beulah, Aberffraw

Oddi ar Wicipedia
Capel Beulah, Aberffraw
Capel Beulah a bwthyn Pen-y-lan
Mathcapel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.183004°N 4.440158°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Capel Beulah wedi ei leoli ym mhentref Aberffraw, mewn ardal o’r enw Pen y Cnwc, Ynys Môn .

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn ôl y son y capel hwn yw'r capel Presbyteraidd lleiaf yn Ynys Môn, efallai yng Nghymru gyfan.

Adeiladwyd cyffiniau'r Capel yn 1797, gyda’r capel cyntaf wedi cwblhau erbyn 1827. Cafodd y capel presennol ei adeiladu yn 1879 am £400, cafodd y tŷ capel ei ychwanegu yn 1898 ar gost o £250. Cyflwynwyd yr organ gyntaf yn 1939, yn ogystal â hyn, cafodd y capel drydan yn 1966.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd dywedwyd bod milwyr o'r Llu Awyr wedi ceisio defnyddio'r capel dros defnydd ei hunain, er nad oeddent wedi llwyddo i wneud.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, Geraint I. L. (2007). Capeli Môn. Wales: Gwasg Carreg Gwalch. t. 34. ISBN 1-84527-136-X.