Canu penrhydd
Barddoniaeth sydd ddim yn defnyddio'r mesurau caeth na'r mesurau rhydd yw canu penrhydd, neu'r wers rydd, sy'n cynnwys y math a ddeilliodd o Ffrainc ac a elwir yn vers libre ac a gyfeirir ati felly weithiau yn y Gymraeg. Nid yw'n defnyddio patrymau na mesurau megis yr odl nac unrhyw batrwm cerddorol cyson. Mae felly'n tueddu i ddilyn rhythm lleferydd naturiol, ac yn gwbwl groes i'r mesur traddodiadol o rythm ac odl neu'r Pedwar Mesur ar Hugain.
Yn y Gymraeg, defnyddir y term "canu rhydd" am bob mesur nad yw'n cynnwys y canu caeth (neu'r gynghanedd); gall hyn gynnwys mesurau fel y soned nad ydynt yn "rhydd" o gwbl yn yr ystyr bod ganddynt reolau pendant iawn o ran mydr ac odl; "canu penrhydd" yw'r term arferol ar gyfer barddoniaeth heb gynghanedd nac unrhyw reolau pendant o ran mydr ac odl. Y cysyniad yma felly, nid "canu rhydd", yw'r term Cymraeg sy'n cyfateb i'r termau Saesneg "free verse"' a'r Ffrangeg verse libre.
Ysgrifennodd T. S. Eliot, "Nid oes unrhyw bennill yn gwbwl rhydd, i'r un sydd am wneud gwaith da." Dywedodd y bardd a'r beirniad Kenneth Allott fod mabwysiadu'r vers libre yn deillio o “ddim ond awydd am newydd-deb, dynwared Whitman, astudio pennill gwag dramatig Jacobeaidd, a'r ymwybyddiaeth o'r hyn yr oedd beirdd Ffrainc eisoes wedi'i wneud i'r alexandrin yn Ffrainc." Sylwodd y beirniad o'r Unol Daleithiau John Livingston Lowes yn 1916: "Gellir ysgrifennu pennill rhydd fel rhyddiaith hardd iawn; gellir ysgrifennu rhyddiaith fel pennill rhydd hardd iawn. Pa un yw?"
Y Gymraeg
[golygu | golygu cod]Gwelwyd dechrau canu penrhydd yn Gymraeg yr ugeinfed ganrif; Wil Ifan oedd y cyntaf i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol am gerdd a luniwyd ar ddull penrhydd, a hynny yn 1925.[1] Bardd dylanwadol yn y cyfrwng oedd Euros Bowen: dywedodd yn ei ragair i'w gyfrol Cerddi Rhydd (1961) ei fod yn ceisio gwneud heb yr un peth yn arbennig a oedd yn perthyn i'r hen ddull o lunio barddoniaeth, sef y llinell. Golygai hynny sgrifennu yn nhrefn mynegiant rhithmig yn unig, a'r cymal, neu'r frawddeg, neu'r paragraff felly'n unedau mynegiant a rhythm.[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Canu Rhydd Cynnar, gol. T. H. Parry-Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1932)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Alan Llwyd, Canrif o Brifwyl (Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1996)
- ↑ Euros Bowen, Cerddi Rhydd (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1961). Dyfynnwyd gan Gwynn ap Gwilym yn y rhagymadrodd i Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif, gol. Gwynn ap Gwilym ac Alan Llwyd (Gwasg Gomer/Cyhoeddiadau Barddas, 1987).